Beth yw cwrs a addysgir?

Mae cyrsiau a addysgir yn gymwysterau lefel uwch sydd fel arfer yn cael eu cwblhau ar ôl gradd israddedig neu radd Baglor. Gall cyrsiau a addysgir roi cyfle i chi ehangu ymhellach eich gwybodaeth am faes pwnc a enillwyd yn ystod eich astudiaethau israddedig. Efallai y byddwch yn dewis astudio ar gwrs ôl-raddedig a addysgir mewn maes pwnc sy'n gwbl wahanol - adnabyddir y rhain yn gyffredinol fel 'cyrsiau trosi'.

Mae pob un o gyrsiau a addysgir Abertawe yn para rhwng 1 flwyddyn a 3 blynedd. Fel cwrs gradd israddedig, mae cyrsiau a addysgir yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a gwaith cwrs asesedig.  Hefyd bydd disgwyl i fyfyrwyr cwrs Meistr gwblhau prosiect ymchwil dwys neu draethawd hir.