Prifysgol Abertawe: Mae LINC yn rhwydwaith cydweithredol a fydd yn galluogi sefydliadau preifat, cyhoeddus ac o'r trydydd sector i gysylltu â'i gilydd a manteisio ar adnoddau ac arbenigedd i gefnogi twf sefydliadol.

Drwy LINC Prifysgol Abertawe, gall sefydliadau gysylltu â graddedigion a myfyrwyr dawnus, elwa o gymorth ymchwil a datblygu o safon fyd-eang, cyfleusterau a chyfarpar o'r radd flaenaf, hyfforddiant a datblygiad sgiliau proffesiynol.

Yn ogystal, bydd aelodau'n gallu manteisio ar rwydwaith cefnogaeth pwerus Prifysgol Abertawe a derbyn gwybodaeth am yr amrywiaeth eang o gyllid a chymorth sydd ar gael i sefydliadau ledled Cymru.

dwy law yn uno