Mae Prifysgol Abertawe'n darparu mynediad i gronfa o dros 20,000 o fyfyrwyr a graddedigion dawnus iawn i lenwi swyddi rhan-amser, rolau i raddedigion a lleoliadau profiad gwaith.

Lleoliadau gwaith ac interniaethau

Os ydych am ddatblygu dyfodol eich sefydliad, neu os oes gennych brosiect mae angen ei gwblhau, mae gennym raglen profiad gwaith i ddiwallu'ch anghenion.

  • Interniaethau a Ariennir
    Cyfleoedd allgyrsiol tymor byr, sy'n amrywio o bythefnos i ddeng wythnos. Gellir eu cynnal drwy gydol y flwyddyn a chânt eu cynnig ar sail amser llawn neu ran-amser. Mae cyllid ar gael tuag at gyflog y myfyriwr neu'r myfyriwr graddedig.
  • Lleoliadau gwaith fel rhan o gwrs
    O brosiectau blwyddyn olaf i fodiwlau profiad gwaith, mae profiad mewn diwydiant yn rhan o gyrsiau'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr. Fel arfer, prosiectau rhan-amser, tymor byr, yw'r rhain sy'n cael eu rheoli ar y cyd â goruchwyliwr y cwrs.
  • Blwyddyn mewn Diwydiant
    Mae llawer o'n cyrsiau'n cynnig cyfle i fyfyrwyr dreulio blwyddyn mewn diwydiant fel rhan o raglen gradd. Fel arfer, trefnir hyn rhwng ail flwyddyn a blwyddyn olaf gradd israddedig. Mae'r lleoliadau gwaith hyn yn cael eu teilwra i gyrsiau penodol ac maent yn ymwneud â disgyblaeth gradd y myfyriwr.

Rydym yn trefnu lleoliadau gwaith ac interniaethau ar gyfer myfyrwyr a graddedigion ag amrywiaeth eang o ddyheadau gyrfa, o bob disgyblaeth ac ar bob lefel.

Rolau graddedigion a swyddi gwag rhan amser

Mae dros 5000 o fyfyrwyr yn graddio o Brifysgol Abertawe bob blwyddyn felly, os oes gennych gyfleoedd i raddedigion yng Nghymru, y DU neu'n fyd-eang, gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r ymgeisydd iawn ar gyfer eich sefydliad.

Yn ogystal â hynny, wrth iddynt astudio, mae ein myfyrwyr bob amser yn cadw llygad am swyddi rhan-amser addas i ychwanegu at eu hincwm a'u helpu i gael profiad felly, os oes gennych rôl yr hoffech ei llenwi, gallwn helpu.

Hysbysebwch eich swyddi gwag

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni heddiw i drafod sut gall ein myfyrwyr a'n graddedigion dawnus wneud gwahaniaeth i'ch sefydliad.

Cysylltwch â ni