Llety ym mhrifysgol Abertawe
Mae llety’r Brifysgol ar agor o hyd a bydd yn croesawu myfyrwyr newydd sy’n cyrraedd.
Dylech chi gyflwyno cais am lety yn ôl y bwriad. Rydyn ni’n adolygu gwasanaethau a phrosesau yn barhaol yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth i sicrhau eich diogelwch tra byddwch mewn llety myfyrwyr.
Deallwn fod hwn yn gyfnod anodd i bawb felly hoffem roi sicrwydd i chi mai iechyd a lles ein myfyrwyr a’n staff yw ein blaenoriaeth. Rydyn ni'n monitro’r sefyllfa ynghylch pandemig Coronafeirws (Covid-19) yn agos iawn ac rydyn ni’n adolygu mesurau er mwyn cefnogi hyn.