Cyrsiau Hyd Ansafonol

Menyw yn eistedd wrth ddesg ar ei chliniadur gyda`i pethau personol o`i chwmpas

Nid yw'r holl gyrsiau'n dechrau ac yn gorffen ar yr un pryd. Cyrsiau safonol yw'r cyrsiau israddedig 40 wythnos 'nodweddiadol'. Gallwch wirio dyddiadau'ch tymor yma.

Os bydd eich cwrs yn dechrau wythnosau cyn y flwyddyn academaidd 'nodweddiadol' ac yn rhedeg y tu hwnt iddi, neu'n rhedeg am ran ohoni'n unig, dim problem – gallwn ni helpu. Bydd yn rhaid i chi roi dyddiadau eich cwrs i ni a gallwn geisio eich cefnogi drwy gynnig tenantiaeth wedi’i haddasu. Wrth wneud cais am lety, nodwch ddyddiad dechrau a dod i ben eich cwrs er mwyn i ni allu dyrannu llety yn briodol.

Gall cyrsiau sy'n dechrau'n gynt, sy'n hwy neu sydd ag oriau astudio gwahanol gynnwys:

  • Myfyrwyr Meddygaeth a Gofal Iechyd megis Clywedeg, Ffisioleg Gardiaidd, Peirianneg Feddygol, Niwroffisioleg, Meddygaeth Niwclear, Ffiseg Ymbelydredd, Ffiseg Radiotherapi, Peirianneg Adsefydlu, Ffisioleg Anadlu a Chysgu, Nyrsio (Oedolion/Plant/Iechyd Meddwl), Bydwreigiaeth, Gwyddor Barafeddygol.
  • Cyrsiau Ôl-raddedig
  • Myfyrwyr Ymweld a Chyfnewid. Yn aml, gall y rhain bara am 1 neu 2 semester yn unig.

 

Wrth gyflwyno cais am lety, nodwch ddyddiad dechrau a diwedd eich cwrs er mwyn i ni allu dynodi eich llety'n briodol.

Myfyrwyr Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr ymweld a chyfnewid