Dod o hyd i'ch cartref ôl-raddedig

Graddedigion yn taflu eu hetiau yn yr awyr 

Ble i fyw yn Abertawe

Fel myfyriwr ôl-raddedig sy'n ymuno â chymuned Prifysgol Abertawe, rydym ni am eich helpu i ddod o hyd i le y gallwch ei alw'n gartref. Rydym yn deall yr hyn mae ei angen arnoch ac rydych chi ei eisiau o lety i'ch cefnogi yn ystod y bennod nesaf hon. Darllenwch ymlaen i weld pam gall llety'r brifysgol fod yn ddelfrydol i chi.

Darperir llety ôl-raddedig mewn 3 preswylfa: Campws y Bae, Campws Parc Singleton, a Tŷ Beck yn agos i ardal yr Uplands. Yn ogystal, rydym yn cynnig llety preifat oddi ar y campws i'r bobl hynny sydd am fyw mewn tŷ neu fflat wrth astudio.

Cynigir tenantiaethau ar sail benodol, dros 51 o wythnosau er y gallwn ni gynnig rhai fflatiau ôl-raddedig penodol ar denantiaeth 40 wythnos ym Champws y Bae. Gallwch drafod hyd y denantiaeth mae ei angen arnoch gyda'n tîm llety. Gan y gall cyrsiau ôl-raddedig bara y tu hwnt i fis Medi, sef y dyddiad gorffen tenantiaeth a roddir, efallai bydd yn rhaid i chi gyflwyno ail gais am lety ar gyfer y mis Medi dilynol. 

Pa opsiwn sydd orau i fi?

 

Mae penderfynu ble i fyw yn ystod eich amser yn Abertawe'n dibynnu'n fawr ar eich dewis personol. Mae gan bawb anghenion a dyheadau gwahanol ac rydym ni'n hyderus y bydd yr amrywiaeth rydym ni'n ei chynnig yn cynnwys rhywbeth at eich dant chi. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein preswylfeydd yma.

Yn ogystal, rydym yn cynnig ardaloedd penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg y mae'n well ganddynt fyw gyda siaradwyr Cymraeg eraill, ardaloedd un rhyw, preswylfeydd dim alcohol, ardaloedd tawel a llety i fyfyrwyr aeddfed, yn ogystal â phreswylfeydd ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio pynciau â hyd cwrs ansafonol. Mae sawl un o'n hystafelloedd yn hygyrch neu gellir eu haddasu at eich anghenion chi. Os hoffech chi fyw mewn ardal benodol, nodwch hyn ar eich cais a gall ein tîm dyrannu llety geisio eich cefnogi gyda hyn.

Mae byw ar gampws Singleton neu'r Bae yn eich rhoi chi wrth wraidd bywyd prifysgol. Mae llety hunan-arlwyo yn cynnwys ystafelloedd en-suite â chelfi gyda chegin a rennir ac ardal fwyta.

Yn Nhŷ Beck, mae gennym fflatiau sengl a theulu tua milltir o Gampws Parc Singleton yn ardal boblogaidd yr Uplands. Oherwydd y tenantiaethau 51 wythnos, mae'r llety hwn yn ddewis poblogaidd gyda myfyrwyr ôl-raddedig a rhyngwladol.

Darllenwch ymlaen i weld pam gall llety'r brifysgol fod yn ddelfrydol i chi.

Byw oddi ar y campws

Mae rhai myfyrwyr ôl-raddedig yn penderfynu y byddai'n well ganddynt fyw oddi ar y campws mewn tai a fflatiau'r sector preifat yn Abertawe. Oes nad yw preswylfeydd myfyrwyr yn addas i chi, mae gennym opsiynau eraill ar eich cyfer. Mae ein cronfa ddata chwiliadwy ar-lein, Studentpad, yn eich galluogi i ddod o hyd i dai preifat sydd ar gael, yn agos at y ddau gampws, yn ogystal â chyfleusterau lleol fel siopau, bariau a bwytai. Dyma ffordd ddi-drafferth o chwilio am dŷ, ac mae’n llai o straen.

Mae’r Tîm Llety bob amser yn hapus i helpu ac maen nhw’n gallu eich cefnogi gyda phob cam o'r broses.

Angen rhagor o help wrth benderfynu beth sy'n iawn i chi?

Gwrandewch ar rai o'n myfyrwyr yn siarad am lety ar y campws ac oddi ar y campws.