Croeso i Wasanaethau Preswyl
Rydym ni'n deall bod symud i wlad newydd yn gam mawr, a dyma pam rydym ni'n gwarantu llety i fyfyrwyr rhyngwladol yn ystod eich blwyddyn gyntaf o astudio, ar yr amod ein bod ni'n derbyn y cais erbyn y dyddiad cau blynyddol o 30 Mehefin (israddedig a ôl-raddedig).
Gall ddod o hyd i'r llety cywir wneud gwahaniaeth mawr pan ddaw i ymgartrefu. Mae gennym sawl opsiwn llety ar gael, ac mae ein tîm ymroddedig wrth law i'ch helpu, bob cam o'r ffordd.
Pa opsiwn sydd orau i fi?
Mae dewis eich llety yn dibynnu ar sawl ffactor, megis y cwrs rydych chi'n ei astudio, y lleoliad yr hoffech chi fyw ynddo a'ch dewisiadau o ran trefniadau coginio a byw. Mae llety un rhyw a dim alcohol ar gael yn yr holl breswylfeydd, ac mae gennym sawl ystafell addasedig a hygyrch os bydd angen. Nodwch a hoffech chi fyw yn un o'r ardaloedd hyn ar eich ffurflen gais.
Os ydych chi'n byw dramor, efallai y bydd hi'n anodd dod i ymweld â phreswylfeydd yn bersonol, ond mae gennym deithiau rhithwir defnyddiol iawn. Rydym ni hefyd yn argymell i chi ddod i ddigwyddiadau Diwrnod Agored lle gallwch ofyn cwestiynau ac ymuno â sgyrsiau.
Cymerwch gipolwg ar ein preswylfeydd i gael rhagor o wybodaeth am y llety gwahanol sydd ar gael yn ystod eich blwyddyn astudio gyntaf.
Byw oddi ar y campws
Os ydych chi'n penderfynu y byddai'n well gennych fyw oddi ar y campws, mae digon o lety o ansawdd da yn y sector preifat. Ewch i StudentPad i chwilio ar-lein am dai sydd ar gael, neu edrychwch ar opsiynau sydd ar gael gan y darparwyr llety myfyrwyr eraill isod.