Mae dewis ble i fyw yn un o'r pethau mwyaf cyffrous am fywyd prifysgol. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cynnig ystod eang o opsiynau llety i fodloni ffordd o fyw, cyllideb a dewis pawb. Os ydych am ddeffro i weld golygfeydd o'r traeth neu am gael eich amgylchynu gan fwrlwm y ddinas, gallwch ddod o hyd i'r lle perffaith i'w alw'n gartref.
Opsiynau Llety
Pam Dewis Llety Prifysgol Abertawe?
Nid cael rhywle i fyw yw byw yn llety'r brifysgol - mae'n golygu bod yn rhan o gymuned fywiog a chroesawgar.
Bydd gennych sicrwydd bod cymorth wrth law, gyda mynediad uniongyrchol at dimau lles a chefnogaeth y Brifysgol ar y safle, yn ogystal â diogelwch 24/7 er mwyn rhoi tawelwch meddwl ychwanegol.
Rydym hefyd yn cadw pethau’n syml. Mae eich rhent yn gynhwysol, gan gynnwys cyfleustodau, Wi‑Fi cyflym a yswiriant cynnwys, felly nid oes unrhyw gostau cudd ac mae rheoli eich cyllideb yn hawdd.
Mae bywyd o ddydd i ddydd yn fwy cyfleus hefyd. Caiff mannau a rennir, fel y ceginau, eu glanhau’n wythnosol, gan eich helpu i gynnal amgylchedd cyfforddus ac iach, a rhoi mwy o amser i chi ganolbwyntio ar eich astudiaethau a mwynhau bywyd myfyriwr.
Dewis ble i fyw
Campws y Bae
Allwch chi ddychmygu byw ger y traeth! Mae Campws y Bae'n cynnig mynediad uniongyrchol i lan môr a golygfeydd godidog. Dyma'r hyb ar gyfer yr adran Peirianneg, Rheoli a'r Ffowndri Gyfrifiadol, ond mae croeso i fyfyrwyr o unrhyw gwrs gan fod gwasanaethau bws uniongyrchol a rheolaidd rhwng y campysau.
Mae'r opsiynau llety'n cynnwys ystafelloedd pâr, en suite, ystafelloedd premiwm ag en suite, ystafelloedd hygyrch a fflatiau 1 a 2 ystafell wely. Hefyd, gan fod gwasanaethau bws rheolaidd, mae'n hawdd teithio rhwng campysau.
Campws Singleton
Yn swatio mewn parcdir cyfoethog ac yn dafliad carreg o'r traeth, mae Campws Parc Singleton yn gartref i'r Ysgolion Diwylliant a Chyfathrebu, y Gwyddorau Cymdeithasol, Seicoleg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Biowyddorau, y Gyfraith a'r Ysgol Feddygaeth. Gallwch fyw'n agos at eich darlithoedd, cyfleusterau chwaraeon, Ysbyty Singleton a Bae Abertawe. Gallwch ddewis ystafelloedd en suite, ystafelloedd safonol sydd ag ystafelloedd ymolchi a rennir ac opsiynau arlwyo.
Mae Campws Parc Singleton yn cynnig ystafelloedd en-suite neu safonol (sydd ag ystafelloedd ymolchi a rennir). Mae rhai preswylfeydd hefyd yn cynnig lwfans arlwyo.
Campws Singleton
Tŷ Beck
Mae Tŷ Beck yn cynnwys chwe thŷ Fictoraidd mawr sydd â chymysgedd o lety a rennir, llety en suite a llety hunangynhwysol.
Mae yn ardal Uplands, Abertawe, 1.5 milltir o Gampws Parc Singleton, ac mae siopau, bariau, caffis a bwytai oll o fewn pellter cerdded o Dŷ Beck. Mae maes parcio am ddim gan Dŷ Beck hefyd.
Mae Tŷ Beck yn safle bach a chyfeillgar sy'n opsiwn poblogaidd a fforddiadwy ar gyfer myfyrwyr aeddfed, myfyrwyr ôl-raddedig, myfyrwyr gwyddor gofal iechyd/meddygol, myfyrwyr rhyngwladol, teuluoedd a pharau.