Côd Llety Myfyrwyr
- Opsiynau Llety
- Ffioedd Llety
- Gwneud Cais am Lety
- Llety i fyfyrwyr israddedig
- Llety i fyfyrwyr ôl-raddedig
- Llety i Fyfyrwyr Rhyngwladol
- Gwybodaeth i Breswylwyr
- Llety ar gyfer Mynediad ym mis Ionawr
- Cymorth Sydd Ar Gael
- Rhieni a Gwarcheidwaid
- Paratoi at Gyrraedd
- Llety Sector Preifat
- Landlordiaid
- Cysylltwch â'r tîm Llety
- Storfa Ddogfennau
- Côd Llety Myfyrwyr
Côd Ymarfer UUK
Ein hymrwymiad
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymrwymedig i ddarparu llety myfyrwyr o safon uchel sy'n bodloni'r gofynion a amlinellwyd gan Gôd Ymarfer UUK ar gyfer Llety Myfyrwyr. Ein nod yw sicrhau bod gan bob myfyriwr amgylchedd diogel, cyfforddus a chefnogol i fyw ynddo. Mae'r polisi hwn yn amlinellu ein hymagwedd at reoli llety, ymateb i gwynion, diogelu preifatrwydd ac ymgysylltu â myfyrwyr.
Mae eich llety'n dylanwadu'n fawr ar eich profiad fel myfyriwr. Dyma pam rydyn ni'n sicrhau bod ein holl lety'n bodloni'r safonau uchaf a amlinellwyd gan Gôd Llety Myfyrwyr y DU.
Caiff y polisi hwn ei adolygu bob blwyddyn yn unol â Chôd Llety Prifysgolion y DU, gan sicrhau cydymffurfiaeth ag arferion gorau a chan ddiwallu anghenion datblygol myfyrwyr.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi
Fel rhan o'n hymrwymiad i les myfyrwyr, mae Prifysgol Abertawe'n gwarantu'r canlynol:
- Amgylchedd diogel ac iach i fyw ynddo
- Gwaith atgyweirio a chynnal a chadw prydlon ar gyfer eich llety
- Man glân a dymunol i fyw ynddo
- Cytundeb ffurfiol, tryloyw gyda’ch landlord
- Mynediad at wasanaethau iechyd a lles
- Amgylchedd byw sydd heb ymddygiad gwrthgymdeithasol
Rydyn ni am i chi fwynhau eich amser yn y Brifysgol yn ddi-straen. Am ragor o wybodaeth, darllenwch y Côd Llety Myfyrwyr i gael gwybod sut mae llety myfyrwyr â chymeradwyaeth UUK yn gwella eich profiad bywyd.
Arolwg Blynyddol y Preswylwyr
Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella profiad llety'r myfyrwyr. Mae ein Harolygon Blynyddol i Breswylwyr yn gyfle i chi roi adborth a helpu i lywio dyfodol byw yn llety'r Brifysgol.
Manylion am yr Arolwg
- Ar agor rhwng 1 Ebrill a 30 Mai bob blwyddyn
- Mae'n cymryd ychydig funudau'n unig i'w gwblhau
- Rhoddir gwobrau!
Gallwch chi gwblhau'r arolwg drwy ddewis y lleoliad rydych chi’n byw ynddo isod:
Campws y Bae
Tŷ Beck
Campws Parc Singleton
Mae eich adborth yn hanfodol wrth ein helpu ni i wella ein gwasanaethau a sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau llety myfyrwyr y DU.
Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion
Rydyn ni'n ymdrechu i ddarparu'r profiad myfyrwyr gorau. Mae eich adborth yn amhrisiadwy ac rydyn ni'n cymryd pob sylw o ddifrif. P'un a oes gennych awgrym, canmoliaeth neu bryder, rydyn ni yma i wrando arnoch.
Rydym yn ymrwymedig i:
- Wrando'n ofalus ar yr holl adborth
- Ymateb i gwynion yn brydlon ac yn broffesiynol
- Cynnig esboniadau neu ymddiheuriadau pan fo angen
- Gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn ymwybodol drwy gydol y broses datrys anghenion
- Ymdrin â phryderon mewn modd tryloyw
Sut i godi pryder
- Datrysiad anffurfiol: Siaradwch yn uniongyrchol ag aelod o staff neu eich tîm llety.
- Problemau o ran llety: Gallwch chi adrodd am broblemau glanhau, cynnal a chadw neu broblemau eraill o ran llety i Dderbynfa eich Preswylfa neu ar-lein yma.
- Pryderon o ran dyrannu llety: E-bostiwch y Gwasanaethau Preswyl yn llety@abertawe.ac.uk.
- Cwynion ffurfiol: Dilynwch ein Gweithdrefn ar gyfer Cwynion Llety.
- Adolygiad annibynnol: Os na fydd cwyn yn cael ei datrys, dylech gysylltu â Swyddfa'r Beirniad Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch.
Am ragor o gyngor, mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar gael i gefnogi myfyrwyr gyda phroblemau o ran llety.
Polisi Preifatrwydd
Rydyn ni'n cymryd eich preifatrwydd o ddifrif. Mae Gwasanaethau Preswyl Prifysgol Abertawe yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data a GDPR, gan sicrhau bod eich data personol yn cael ei drin yn ddiogel.
Efallai byddwn ni'n casglu ac yn prosesu data personol megis:
- Manylion cyswllt
- Gwybodaeth feddygol (os oes angen hon ar gyfer addasiadau llety)
- Cofnodion llety
- Data ariannol sy'n berthnasol i daliadau llety
Rydyn ni'n rhannu eich data gyda darparwyr gwasanaethau hanfodol yn unig, gan gynnwys partneriaid rheoli llety megis UPP, at ddibenion archebu a chynnal a chadw.
Strategaeth Ymgysylltu â Phreswylwyr sy'n Fyfyrwyr
Ym Mhrifysgol Abertawe, eich diogelwch a'ch lles yw ein blaenoriaethau pennaf. Rydyn ni'n ymroddedig i'ch cadw'n ymwybodol am faterion ynghylch diogelwch adeiladau, gwaith cynnal a chadw a materion llety pwysig eraill.
Mae ein Strategaeth Ymgysylltu â Phreswylwyr yn canolbwyntio ar:
- Ymgysylltu: Cysylltu â myfyrwyr drwy e-bost, ein gwefan, y cyfryngau cymdeithasol, sgriniau digidol a chyfarfodydd wyneb yn wyneb.
- Gwybodaeth: Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn brydlon ynghylch mesurau diogelwch a gwaith cynnal a chadw.
- Grymuso: Sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad at wybodaeth am ddiogelwch a ffyrdd amlwg o godi pryderon.
- Adborth: Annog myfyrwyr i gymryd rhan yn ein Harolwg Preswylwyr Blynyddol i wella ein gwasanaethau llety'n barhaus.
Diogelwch a Chyfathrebu
- Rhaid i chi gwblhau'r Gweithgarwch Sefydlu cyn Cyrraedd, sy'n rhoi gwybodaeth allweddol cyn i chi symud i mewn.
- Rydyn ni'n cynnal gwiriadau diogelwch rheolaidd, gan gynnwys arolygiadau diogelwch tân ac asesiadau o'r adeiladau.
- Os bydd angen gwaith atgyweirio neu darfu, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am hyn ar bob adeg.
Os oes gennych ragor o ymholiadau, e-bostiwch Wasanaethau Preswyl Prifysgol Abertawe yn llety@abertawe.ac.uk.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i lety â chymeradwyaeth UUK ym Mhrifysgol Abertawe!