Gwybodaeth ychwanegol am lety i Rieni a Gwarcheidwaid

Teulu yn tynnu hunlun

Cefnogi eich plentyn yn ei gartref newydd

Rydym yn deall y cam mawr mae myfyrwyr yn ei gymryd pan fyddant yn symud i ffwrdd i'r brifysgol, a sut gall hyn fod yn amser yr un mor bwysig i rieni a gwarcheidwaid. Dyna pam rydym ni wrth law i'ch cefnogi chi a'ch plentyn drwy gydol y broses bontio. P'un a ydych chi'n gyfarwydd â'n dewisiadau llety, neu'n hollol newydd i'r holl broses hon, bydd yr wybodaeth ar y dudalen hon yn eich llywio wrth i chi gefnogi eich anwyliaid drwy'r cam cyffrous hwn yn eu taith addysg uwch.

CYNGOR I RIENI A GWARCHEIDWAID

Cwestiynau Cyffredin

Delwedd o fyfyrwyr y tu allan i'r llety.

Gwasanaethau Preswyl a Diogelu Data

Mae llawer o rieni/gwarcheidwaid yn talu'r ffioedd llety. Fodd bynnag, mae'r contract cyfreithiol rhwng y Gwasanaethau Preswyl a'ch plentyn. Yn unol â rheoliadau Diogelu Data, felly, fel arfer gallwn drafod y manylion yn uniongyrchol â'r myfyriwr yn unig. 

Os ydych yn cysylltu â’r tîm llety ar ran y myfyrwyr dros y ffôn, byddwn yn gofyn i siarad â’r myfyriwr yn uniongyrchol cyn parhau â’r sgwrs. Os bydd y cyswllt dros e-bost, bydd angen caniatâd ysgrifenedig y myfyriwr drwy’r ffurflen hon i ddatgelu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.

Nid yw'n fater o beidio ag eisiau siarad â chi; mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i gydymffurfio â chanllawiau o ran pa wybodaeth y gallwn ei rhoi i chi. Rydym yn hapus i siarad â chi am unrhyw ymholiadau cyffredinol, ond ni allwn drafod manylion penodol ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol sy'n atal y myfyriwr rhag cysylltu â ni. Os ydych chi'n poeni am les myfyriwr tra y bydd yn byw mewn preswylfeydd, cysylltwch â ni. Rydym yn hapus i wirio bod popeth yn iawn gyda myfyrwyr unigol a chynnig cymorth ychwanegol os bydd angen ac os bydd y myfyriwr yn derbyn hyn.

Caiff unrhyw anfonebau preswyl (ffioedd llety) eu hanfon at gyfrif e-bost prifysgol y myfyriwr. Os bydd angen i chi wybod y manylion, bydd angen i chi ofyn i'r myfyriwr ei anfon ymlaen atoch chi. Dyma fel y mae hi hefyd yn achos unrhyw broblemau sydd ganddynt. Ni allwn gyfathrebu â thrydydd partïon, a byddwn bob amser yn ateb y myfyriwr yn uniongyrchol os byddwn yn derbyn unrhyw ohebiaeth. Rydym yn ceisio cefnogi a pharchu ein myfyrwyr sy'n byw mewn preswylfeydd ac rydym ni bob amser yn ceisio sicrhau ein bod ni'n ystyried eu hanghenion.