Mae Gwasanaeth Diogelwch ac Ymatebwyr Cyntaf Prifysgol Abertawe’n dîm o weithwyr proffesiynol diogelwch cymwys a phrofiadol o ystod eang o gefndiroedd sy’n amrywio o’r fyddin a’r gwasanaethau brys i arbenigwyr gwasanaethau cwsmeriaid a pharafeddygon.
Yn ymrwymedig i Werthoedd Gwasanaethau Proffesiynol y Brifysgol, ein nod yw hwyluso amgylchedd diogel a chroesawgar sy’n hyrywddo rhagoriaeth, arloesedd a menter ynghyd â chyfleoedd cyfartal, amrywiaeth a chynhwysiant.
Ar waith 24 awr y dydd, 365 niwrnod y flwyddyn, mae’r tîm yn darparu ystod eang o wasanaethau:
- Ymateb mewn argyfwng (ymatebwyr cyntaf, 24/7 i ddigwyddiadau diogelwch ac andwyol neu argyfyngau)
- Atal troseddau’n rhagweithiol
- Monitro larymau a CCTV
- Patrolau diogelwch
- Cymorth cyntaf (safon uwch)
- Cymorth cyntaf iechyd meddwl ac ymyriad mewn hunanladdiad
- Rheoli contractwyr ac ymwelwyr
- Rheoli traffig
- Cefnogi digwyddiadau
- Dadansoddi bygythiadau