Datblygu Dysgu ac Addysgu trwy SALT

Cymuned addysgegol sefydledig, sy'n cefnogi ac yn galluogi datblygu rhagoriaeth addysgu.


Ewch i dudalennau gwe SALT ar Fewnrwyd y Staff trwy ddilyn y ddolen hon.

(Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif Prifysgol Abertawe)


Mae SALT yn gweithio gydag aelodau staff academaidd i atgyfnerthu a gwella eu haddysgu, eu hasesu a dysgu eu myfyrwyr.  Mae gan bob ysgol yn y Brifysgol ei harweinydd SALT dynodedig sy'n gweithio fel cyswllt dwyffordd, ac sy'n gyfrifol am gyfathrebu ac ategu mentrau SALT.

Mae ein gwaith yn cynnwys:

  • Cydnabyddiaeth athro a dyfarniadau
  • Cefnogi'r staff addysgu wrth iddyn nhw ddefnyddio technoleg i wella dysgu ac addysgu
  • Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus rheolaidd â ffocws addysgu ac ystod eang o adnoddau hunangyfeiriedig
  • Cyngor ac arweiniad ar addysgu hygyrch a chynhwysol
  • Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol
  • Yn cyflwyno ac yn cefnogi'r PGCert ar gyfer staff addysgu (wedi'i achredu gan Advance HE)
  • Cydnabod ymroddiad staff i ddysgu ac addysgu drwy ein rhaglen strwythuredig ac achrededig Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch

Cydnabyddiaeth

Cymrodoriaeth yr AAU
 
  • Llwybr cefnogol i Gymrodoriaeth, yn unol â Fframwaith Safonol Proffesiynol, ar gael i holl staff gymwys trwy broses Llwybr Gais Abertawe (SAR)
  • Datblygiad Cymrawd Cysylltiol o’r Academi Addysg Uwch (AFHEA) ar gyfer cynorthwywyr dysgu ac arddangoswyr
  • Arfer da trwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus yn unol â AdvanceHE
  • Cefnogaeth Prif Gymrawd tuag at y llwybr allanol

TUAAU

Delwedd o gynulleidfa rapt
 
  • Darpariaeth raglen dysgu o ansawdd uchel ar gyfer staff newydd
  • Llawn amser a rhan amser yn y Saesneg gyda’r gobaith o opsiwn Cymraeg
  • Datblygiad o ardaloedd gwahanol o pedagogeg/Dysgu trwy Dechnoleg (TEL).

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

SALT Datblygiad Proffesiynol Parhaus
 
  • Trosglwyddiad o amrywiaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus sydd yn hygyrch, cynaliadwy ac yn gyffrous ar gyfer pob athro.
  • Datblygiad adolygiad gan gydweithwyr wedi ymestyn i ddadansoddiad, Drws Agored a lledaenu rhyngwladol
  • Darpariaeth cydweithredol egnïol: Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu, Cymrodyr Dysgu, Dysgu Actif, Digwyddiadau Agored/Cyfrannol

Datblygiad Dysgu trwy Dechnoleg

Delwedd o offer rhith realiti
 
  • Cefnogaeth Amgylchedd Dysgu Rhithiol – technoleg a chefnogaeth addysgu
  • Strategaeth Ddigidol – cefnogi athrawon gyda’u hanghenion yn unol ag aliniad datblygiad sefydliadol
  • Asesiad ar-lein a datblygu dyluniad hyfforddi