Mae gan ein hystâd ym Mhrifysgol Abertawe ddau gampws bywiog ar lan y môr – y Bae a Pharc Singleton.

Mae ein tîm profiadol wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau rheoli ystadau a chyfleusterau ardderchog, ac yn cynnig profiad rhagorol i'n cymuned amrywiol o fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr campws.

Yn ogystal â rheoli, cynnal a datblygu ystâd y Brifysgol, a darparu amgylchedd diogel, cynaliadwy a diogel ar gyfer dysgu ac ymchwil, rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau campws gan gynnwys preswylfeydd myfyrwyr, chwaraeon, arlwyo,  cyfleusterau diwylliannol a digwyddiadau, y gall pawb, gan gynnwys y gymuned leol, ac ymwelwyr eu mwynhau.

Isod fe welwch ddolenni i wybodaeth bwysig i gontractwyr (gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau hanfodol), yn ogystal â manylion am iechyd a diogelwch ar y campws, a'n dull o ymdrin â chynaliadwyedd.