Os nad oes gennych eich beic eich hun, gallwch logi un o'n cynllun Beiciau Santander.
Mae hybiau ar y ddau gampws (mae hybiau eraill yn y mannau canlynol: Southend yn y Mwmbwls, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, y Ganolfan Ddinesig, Parcio a Theithio Ffordd Fabian).
Fel rhan o'r cynnig lles i staff a myfyrwyr, bydd myfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe'n cael aelodaeth flynyddol am ddim, sy'n golygu bydd 30 munud cyntaf pob taith feicio am ddim, gyda phob 30 munud wedi hynny'n costio 50c yn unig.
Sut i gael eich Tanysgrifiad Blynyddol Prifysgol Abertawe AM DDIM.
Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer y cynllun, dilynwch y camau syml hyn:
Cofrestru
- Gallwch lawrlwytho'r fersiwn ddiweddaraf o ap nextbike i gofrestru a chael mynediad at y nodweddion mwyaf newydd (ar gael ar iOS ac Android). Neu, gallwch wneud hyn ar y wefan: wsantandercycles.co.uk. Peidiwch ag anghofio derbyn yr amodau a thelerau.
- Unwaith y byddwch wedi cofrestru, dewiswch 'Activate Account'.
- Cwblhewch y 'Profile Fields'. Cofiwch i gofrestru gyda'ch cyfeiriad e-bost @abertawe.ac.uk.
- Dewiswch 'Unlock Options' a nodwch eich manylion talu. Mae angen talu blaendal o £5 i ddilysu eich gwybodaeth a bydd yn gredyd ar eich cyfrif. Sylwer: Ni dderbynnir cardiau rhagdaledig. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at ein hamodau a’n telerau neu e-bostiwch ni yn customerservice@nextbike.co.uk
- Gallwch ddilysu eich cyfrif drwy glicio ar y ddolen a anfonwyd atoch drwy e-bost.
Sylwer: I ddefnyddio tanysgrifiad 'Beic Campws Prifysgol Abertawe 2021', rhaid i chi gofrestru gyda'r cyfeiriad e-bost @abertawe.ac.uk Mae'r cyfraddau aelodaeth yn berthnasol i'r beic cyntaf rydych yn ei logi. Bydd pob llogi ychwanegol yn destun cyfradd safonol Talu Wrth Seiclo. Wrth logi am fwy na 24 awr, byddwch yn talu am y diwrnod nesaf cyfan.
Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda'ch cyfeiriad Prifysgol Abertawe:
Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda'r cyfeiriad Prifysgol Abertawe, bydd nextbike angen i chi ail-ddilysu eich cyfrif.
Dylech fod wedi derbyn e-bost gan nextbike (gwiriwch eich post sgrwtsh). Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilysu eich e-bost ac yna bydd y tanysgrifiad am ddim yn cael ei ychwanegu.
Os ydych wedi cofrestru gyda chyfeiriad e-bost personol (ar wahân i @abertawe.ac.uk)
Os ydych wedi cofrestru gyda'ch cyfeiriad e-bost personol, ni fydd y system yn eich adnabod fel myfyriwr nac aelod o staff Prifysgol Abertawe. Bydd angen i chi newid eich cyfeiriad e-bost i @abertawe.ac.uk yn yr ap.
Byddwch yn derbyn e-bost gan nextbike yn gofyn i chi ddilysu eich e-bost. Unwaith byddwch wedi gwneud hynny, bydd eich tanysgrifiad ar waith.
Os oes gennych ymholiadau, gall tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid nextbike eich helpu: customerservice@nextbike.co.uk 00 44 20 8166 9851.
Ble galla i fynd?
Gallwch fynd i unrhyw le ar eich Beic Santander – chi sy’n dewis! Mae'r beiciau wir yn ffordd wych o fynd hwnt ac yma ac archwilio Abertawe. Efallai yr hoffech ymweld â'r Mwmbwls, neu fwynhau taith hamddenol ar hyd promenâd Abertawe? Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer eich taith feicio, edrychwch ar y map electronig cyfleus hwn o lwybrau beicio. Sicrhewch eich bod chi’n dychwelyd eich beic Santander i orsaf ddocio swyddogol pan fyddwch chi wedi gorffen, bod cyfrifiadur y beic yn dweud ei fod wedi’i ddychwelyd, a’ch bod chi’n wirio â’ch llygaid eich hun fod eich nextbike wedi’i gloi cyn gadael yr orsaf.
Ble gallaf gael gwybod rhagor?
Gallech chi dderbyn yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch chi ynghylch cofrestru ar gyfer Beiciau Santander Abertawe, gan gynnwys gwybodaeth am sut i ddod o hyd i feiciau, eu llogi, eu parcio a’u dychwelyd ar wefan y cynllun.