Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i annog a gweithredu ffyrdd newydd o feddwl, gweithio ac ymddwyn er mwyn creu dyfodol mwy disglair a mwy cynaliadwy i Abertawe a'i chymuned.

Trwy ymrwymo i 17 Nod Datblygu Cynaliadwy (SDG) y Cenhedloedd Unedig rydyn ni’n addo gweithio tuag at lasbrint ar gyfer dyfodol gwell a mwy cynaliadwy i bawb; gan anelu at roi terfyn ar dlodi, ymladd anghydraddoldeb ac anghyfiawnder ac amddiffyn ein planed.

An image with all the 17 SDG Global Goals Icons

Beth yw Cystadleuaeth Dau ar Bymtheg?

Mae ein dewisiadau, ein gweithredoedd a'n profiadau yn bwerus. Gall eu heffeithiau gyrraedd ymhell y tu hwnt inni a lle rydyn ni'n byw.

Prosiect ym Mhrifysgol Abertawe yw cystadleuaeth Dau ar Bymtheg a’i amcan yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bob un o 17 Nod Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Yn sgîl cystadleuaeth Dau ar Bymtheg ein nod yw dal lleisiau ein cenhedlaeth nesaf. Mae'r gystadleuaeth ar-lein yn annog pobl ifanc (16 a 17 oed) yn Abertawe i fynegi’u teimladau am y nodau byd-eang.

Os ydych chi'n 16 neu'n 17 oed ac yn byw yn ardal Bae Abertawe, rydyn ni eisiau clywed eich barn a gwybod am eich profiadau. Mae cystadleuaeth Dau ar Bymtheg yn eich gwahodd i ddweud wrthyn ni am eich gobeithion, eich breuddwydion a'ch uchelgeisiau neu'ch pryderon a'r hyn sy’n destun gofid ichi am y dyfodol.

Fel rhan o'r gystadleuaeth, byddwn ni’n gwahodd y cystadleuwyr buddugol i gael tynnu’u llun fel rhan o sesiwn tynnu lluniau broffesiynol. Caiff y lluniau hyn eu defnyddio i gyd-fynd â’r cyflwyniadau ysgrifenedig a fydd yn cael eu harddangos yn oriel ar-lein ein cystadleuaeth Dau ar Bymtheg. Bydden ni wrth ein bodd yn cynnwys lluniau o’r holl gynigion buddugol, fodd bynnag rydyn ni’n gwerthfawrogi na fydd rhai pobl hwyrach eisiau i lun ohonyn nhw gael ei dynnu neu’i arddangos, felly bydd yr elfen hon o'r gystadleuaeth yn un ddewisol.

Mae cystadlu yn ‘Dau ar Bymtheg’ yn hawdd iawn. Rydyn ni eisiau ichi lenwi'r ffurflen ar-lein (ceir dolen isod) a dweud wrthyn ni yn eich geiriau eich hun beth mae un o Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn ei olygu i chi. Mae gwobrau anhygoel ar gael ar gyfer y cynigion buddugol; sgroliwch i lawr i gael gwybod rhagor am gyflwyno'ch cynnig chi.

CLICIWCH NAWR AR YR EICONAU ISOD I WYBOD RHAGOR AM BOB UN O 17 NOD DATBLYGU CYNALIADWY’R CENHEDLOEDD UNEDIG AC I DDWEUD WRTHYN NI AM EICH GOBEITHION A’CH BREUDDWYDION AR GYFER DYFODOL CYNALIADWY AR GYFER ABERTAWE.

Logo'r Nodau Datblygu Cynaliadwy