Nod Datblygu'r Cenhedloedd Unedig - Eicon Bywyd Islaw Dŵr

Mae effeithiau newidiadau yn yr hinsawdd yn cael eu teimlo ledled y byd a chan fod y  rhan fwyaf o arwyneb y blaned yn ddŵr, i lawer o bobl, mae newidiadau yn yr hinsawdd yn cael eu canfod drwy ddŵr.

Os ydyn ni eisiau amddiffyn bywyd o dan ein dyfroedd, mae’n rhaid inni leihau llygredd a’i atal, amddiffyn ecosystemau, cefnogi pysgota cynaliadwy a chynyddu’n gwybodaeth a'n dealltwriaeth o fywyd o dan y dŵr a'n heffaith arno.

Gallwch chi ddarllen rhagor am y Nod Datblygu Cynaliadwy hwn o eiddo’r Cenhedloedd Unedig yma.

PA RAI YW EICH TEIMLADAU, EICH BARN A’CH SYNIADAU AM FYWYD O DAN Y DŴR?

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Hoffen ni ichi ddisgrifio'ch barn, eich teimladau, eich pryderon neu'ch gofidion yn ogystal â'ch syniadau a'ch dyheadau mewn perthynas â bywyd o dan ein dyfroedd.

I gyflwyno'ch cynnig a chael y cyfle i ennill hyd at £250 mewn talebau, cliciwch ar y botwm ar y dde.