Cyfleoedd Hyfforddiant Ym Maes Cynaliadwyedd

Mae ein Tîm Cynaliadwyedd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi ar gyfer gwahanol rolau, gan gynnwys staff academaidd, technegol, gweinyddol a staff cymorth, myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, a chontractwyr.

Pa gyrsiau hyfforddiant sydd ar gael?

Mae llawer o gyrsiau ar gael. Fodd bynnag, mae'r holl staff yn gallu cael mynediad at waith sefydlu staff y Brifysgol, sy'n cynnwys cyflwyniad cryno i'r Tîm Cynaliadwyedd a'n meysydd gwaith. At hynny, rydym yn trefnu:

Cyffredinol:

  • Hyfforddiant Llythrennedd Carbon
  • Hyfforddiant Arllwysiad Allanol
  • Gwaith Cadwraeth ac Amddiffyn yr Amgylchedd ar y Campws (ar gael ar gais)
  • Ymwybyddiaeth o Wastraff ac Ailgylchu
  • Hyrwyddwr Teithio
  • Hyfforddiant i Arweinwyr Teithiau Beicio

Penodol i labordai:

  • Rheoli Rhestrau Stoc Cemegol
  • Labordai cynaliadwy
  • Gwastraff Labordai

Sut mae cadw lle ar gwrs?

Os ydych chi'n aelod o staff, cadwch le drwy ABW. Os ydych chi'n fyfyriwr, neu os nad oes dyddiad cwrs ar y rhestr ar ABW ar hyn o bryd, cysylltwch â'ch Swyddog Amgylchedd lleol er mwyn trefnu sesiwn hyfforddiant i chi a/neu eich adran.

An image of a female student sitting in a lecture with fellow students in background