Cysylltwch â’n tîm Cynaliadwyedd
Mae ein Tîm Cynaliadwyedd yn gweithredu ar draws y Brifysgol ac yn allanol i gydlynu ac arwain ein rhaglen gynaliadwyedd ac i gyflawni’r ymrwymiadau yn Strategaeth Cynaliadwyedd 2021-2025. Sefydlwyd yr adran yn 2011 ac mae'n atebol i'r Is-ganghellor sydd â'r cyfrifoldeb gweithredol am gynaliadwyedd.
Maes | Cyfeiriad E-bost |
---|---|
Cynaliadwyedd a Lles | sustainability@abertawe.ac.uk |
Bioamrywiaeth a Bywyd Gwyllt | wildlife@abertawe.ac.uk |
Gwastraff ac Ailgylchu | estates-waste@abertawe.ac.uk |
Enw | Teitl Swydd | Cyfeiriad E-bost | Maes |
---|---|---|---|
Teifion Maddocks | Rheolwr Cynaliadwyedd | Mae Teifion yn rheoli tîm Cynaliadwyedd y Brifysgol, yn aelod o Bwyllgor Cyfrifoldeb Corfforaethol a Bwrdd Iechyd a Lles y Brifysgol, gan ddarparu gwybodaeth a phrofiad proffesiynol a thechnegol i gyfrannu at gyflwyno agenda cynaliadwyedd a lles y Brifysgol yn llwyddiannus. Mae Teifion yn goruchwylio cyflwyno’r Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd a’r amcanion, y nodau, y strategaethau a’r mesurau cysylltiedig, ynghyd â rheoli achrediadau allanol a gweithio’n weithredol gyda rhanddeiliaid allanol i integreiddio cynaliadwyedd ar draws y rhanbarth. Mae meysydd gwaith penodol hefyd yn cynnwys caffael cynaliadwy, arloesedd technolegol, ymgysylltu, rheoli carbon a’r argyfwng hinsawdd. | |
Emily Ingram | Swyddog Amgylchedd | emily.ingram@abertawe.ac.uk | Mae Emily yn gyfrifol am wella ymarfer cynaliadwyedd a rheoli amgylcheddol ledled y Brifysgol a'i gweithrediadau craidd ar draws campysau'r Brifysgol. Gan weithio fel rhan o dîm i gynnal a chadw a chyflawni ein hachrediad ISO14001:2015, Emily yw'r prif gyswllt ar gyfer y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Cyfadran y Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol a'r gwasanaethau proffesiynol. |
Victoria Lewis |
Swyddog Amgylchedd |
v.c.lewis@swansea.ac.uk | Mae Victoria yn gyfrifol am wella ymarfer cynaliadwyedd a rheoli’r amgylchedd ar draws y Brifysgol ynghyd â’i gweithrediadau craidd ar draws campysau’n Prifysgol. Gan weithio fel rhan o dîm i gynnal a chyflawni’n hachrediad ISO14001:2015, Victoria yw cyswllt allweddol y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, Labordai LEAF a gwasanaethau proffesiynol. Victoria hefyd yw’r prif swyddog ar gyfer y rhaglen labordai cynaliadwy, LEAF. |
Fiona Wheatley | Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu | fiona.wheatley@abertawe.ac.uk | Fiona yw ein Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu penodol, sy'n goruchwylio'n strategol gontract gwastraff y Brifysgol. Mae'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol, gan ddarparu arweiniad ynghylch rheoli gwastraff, yn ogystal â hybu gwelliannau wrth ailddefnyddio, ailgylchu a chreu llai o wastraff, wrth wella pob agwedd ar reoli gwastraff ledled ein holl gampysau. |
Rhia Cullen | Cynorthwy-ydd Amgylcheddol a Chynaliadwyedd | r.e.cullen@abertawe.ac.uk | Yn aml, Rhia fydd y cyswllt cyntaf yn y tîm cynaliadwyedd ac mae'n cynorthwyo wrth gydlynu prosiectau cynaliadwyedd allweddol, rhaglenni a digwyddiadau ledled y Brifysgol. Mae Rhia hefyd yn gyfrifol am lawer o agweddau ar systemau a phrosesau rheoli gwastraff ar draws yr holl Brifysgol. |
Jayne Cornelius | Swyddog Teithio Cynaliadwy | j.cornelius@abertawe.ac.uk | Jayne yw ein Swyddog Teithio Cynaliadwy arbenigol, ac mae'n gweithio ledled y Brifysgol a chyda rhanddeiliaid allanol er mwyn cyflawni'r Strategaeth Teithio Cynaliadwy. Mae Jayne hefyd yn rheoli'r contractau trafnidiaeth gan gynnwys ein gwasanaethau bws, beiciau Santander a'r Cynllun Beicio i'r Gwaith. Hefyd, mae Jayne yn gweithio gyda sefydliadau allanol er mwyn integreiddio atebion teithio cynaliadwy ledled ein Dinas-ranbarth. |
Swydd Wag | Swyddog Amgylchedd | Bydd deiliad y swydd yn arwain ar brofiad staff a myfyrwyr ac yn ymgysylltu â hwy, gan gynnwys y rhaglen cynnwys staff SWell, a bydd yn arwain newid ymddygiadol a chyfathrebiadau cynaliadwy ar draws y Brifysgol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn arwain Gwobr Gynaliadwyedd y myfyrwyr, gan weithio gydag adrannau academaidd i wella rhagolygon graddedigion ym maes cynaliadwyedd, a bydd hefyd yn cefnogi’r gwaith o weithredu ISO 14001:2015 gyda’n Swyddogion Amgylchedd. | |
Ben Sampson | Swyddog Bioamrywiaeth | benjamin.sampson@abertawe.ac.uk | Ben yw ein Swyddog Bioamrywiaeth arbenigol, sy'n gweithio ar draws y Brifysgol a'r tu hwnt i wella ein hamgylchedd naturiol ni. Mae Ben yn gweithio tuag at gyflawni ymrwymiadau'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth, yn ymgysylltu â staff a myfyrwyr i hybu ymwybyddiaeth ynghylch bioamrywiaeth, ac yn cynnal prosiectau. Mae Ben hefyd yn gyfrifol am reoli Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn. |
John Llewellyn | Rheolwr Ynni a Charbon | j.r.llewellyn@abertawe.ac.uk | John yn hyrwyddo'r gwaith o leihau allyriadau ac effeithlonrwydd ynni drwy ddatblygu a chyflawni ar ein Cynllun Rheoli Carbon. Gan weithio ar lefel weithredol, mae John yn gweithio ledled yr holl Brifysgol a chyda rhanddeiliaid allanol i leihau ein dŵr, ein hynni a'n carbon. |
Katie Horsburgh |
Asiant dros Newid - Cynaliadwyedd |
Mae Katie yn ysgrifennu ac yn cydlynu cynnwys ar gyfer ein sianeli cyfathrebu, yn ogystal â chynorthwyo gydag ymgyrchoedd ymwybyddiaeth. Mae'n rhoi cymorth wrth ddarparu digwyddiadau a gweithgareddau wyneb yn wyneb i staff a myfyrwyr. Mae Katie hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddogion Amgylchedd i gefnogi'r System Rheoli Amgylcheddol ISO:14001. |
Cefnogir y Tîm Cynaliadwyedd i gyflawni’r strategaeth cynaliadwyedd trwy gyllideb flynyddol a ddaw o gyllid mewnol a chyllid allanol (e.e. y brifysgol, CCAUC, Llywodraeth Cymru, a’r Trydydd Sector). Mae’r gyllideb yn newid bob blwyddyn ac mae fel arfer rhwng £500,000 ac £1 filiwn. Yn ogystal, ers 2015 buddsoddwyd dros £3 miliwn mewn prosiectau lleihau carbon gan gynnwys: Gosod Celloedd Solar Ffotofoltäig, prosiectau effeithlonrwydd ynni ac isadeiledd a meddalwedd System Rheoli Adeiladau.