Is-Ganghellor - Yr Athro Paul Boyle
Yr Is-ganghellor yw prif weithredwr a phrif swyddog academaidd a gweinyddol y Brifysgol. Mae'n rhoi arweiniad a chyfeiriad strategol i'r Brifysgol, ac yn gyfrifol am ei chynadlwyedd ariannol.
Yr Is-ganghellor yw prif weithredwr a phrif swyddog academaidd a gweinyddol y Brifysgol. Mae'n rhoi arweiniad a chyfeiriad strategol i'r Brifysgol, ac yn gyfrifol am ei chynadlwyedd ariannol.
Mae Uwch-dîm Arweinyddiaethyn cefnogi'r Is-Ganghellor, sydd â chyfrifoldebau rheoli dros agweddau penodol o'r Brifysgol.
Y Cofrestrydd yw dirprwy brif weithredwr a phennaeth gwasanaethau proffesiynol, gweinyddol a chymorth y Brifysgol. Mae'n gyfrifol am lywodraethu'r Brifysgol ac ef yw'r Dirprwy Brif Weithredwr, gan ddirprwyo yn absenoldeb yr Is-ganghellor.
Mae Cyfarwyddwyr y gwasanaethau gweinyddol a chymorth yn adrodd yn uniongyrchol i'r Cofrestrydd.
Penodwyd yr Athro Steve Wilks yn Profost, o 1 Rhagfyr 2019 i 31 Rhagfyr 2022. Mae ganddo gyfrifoldeb am ein hystâd academaidd, cynllunio busnes, prosiectau mawr a'n Colegau Academaidd. Defnyddir y teitl hwn yn gyffredin yn y sector ar gyfer rôl o'r fath.
Mae’r Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor yn gyfrifol am Recriwtio Myfyrwyr, Profiad Myfyrwyr ac Addysg.
Mae’r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor yn gyfrifol am Ymchwil ac Arloesi
Bywgraffiad a manylion cyswllt
Mae’r Athro Elwen Evans CF, Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol, Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Mae’r Athro Keith Lloyd – Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol, Cyfadran y Gwyddorau Bywyd ac Iechyd
Mae’r Athro Kenith Meissner – Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol, Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Sarah Jones yw'r Cyfarwyddwr Cyllid ac mae’n gyfrifol am roi arweinyddiaeth ariannol strategol, cyfarwyddyd a chyngor arbenigol ar bob mater ariannol ar draws gwasanaethau gweithredol y Brifysgol, yn ogystal â rhoi mewnbwn sylweddol i'r penderfyniadau strategol ynghylch buddsoddi.