Dirprwy Is-ganghellor

Penodwyd yr Athro Helen Griffiths yn Ddirprwy Is-ganghellor â chyfrifoldeb am Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Awst 2020. Cyn hyn, bu'n Ddeon Gweithredol Cyfadran Gwyddorau Iechyd a Meddygaeth Prifysgol Surrey. Yn flaenorol, bu Helen yn Ddirprwy Is-ganghellor Rhyngwladol yn dilyn pum mlynedd fel Deon Gweithredol Gwyddorau Bywyd ac Iechyd Prifysgol Aston. Bu Helen yn aelod o fyrddau a chynghorau gweithredol y prifysgolion dan sylw ers 2009.

Mae Helen yn gyfrifol am arwain y gwaith o ddatblygu Strategaeth Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe, ei rhoi ar waith a'i gwella'n barhaus.

Mae Helen yn un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerfaddon, lle enillodd BSc (Anrhydedd) mewn Biocemeg, a Phrifysgol Birmingham (PhD o'r Gyfadran Meddygaeth). Mae Helen wedi cyhoeddi dros 170 o bapurau a adolygwyd gan gymheiriaid. Mae wedi ymdrechu i gynyddu dealltwriaeth o fecanweithiau llid a chlefydau dirywiol sy'n gwaethygu wrth i bobl heneiddio.

Dyfarnwyd Cadair bersonol yn y Gwyddorau Biofeddygol i Helen yn 2005 gan Brifysgol Aston. Gwnaeth sylfaenu Canolfan Aston ar gyfer Heneiddio'n Iach yn 2009 ac mae ei gwaith ymchwil wedi ennill gwobrau. Mae gwaith ymchwil Helen wedi bod yn gydweithredol erioed, wrth iddi weithio gyda chlinigwyr a phartneriaid diwydiannol gyda'r nod o feithrin ymchwilwyr talentog a dealltwriaeth newydd, sydd at ei gilydd yn cael effaith gadarnhaol ar faes heneiddio'n iach.

Mae Helen yn un o Gymrodyr y Gymdeithas Fioleg Frenhinol ac yn aelod o Fwrdd Golygyddol Redox Biology. Mae wedi gwasanaethu yn y gorffennol ar Fwrdd Parc Chwaraeon Surrey a Bwrdd Iechyd a Lles Cyngor Sir Surrey. Bu'n aelod o Gyngor Llywodraethwyr dwy ymddiriedolaeth iechyd fawr yn Birmingham a Guildford.

Yr Athro Helen Griffiths