DEON GWEITHREDOL A DIRPRWY IS-GANGHELLOR Y GYFADRAN MEDDYGAETH, IECHYD A GWYDDOR

Yr Athro Keith Lloyd yw Deon Gweithredol a Dirprwy Is-ganghellor y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Mae Keith yn arwain datblygiad strategol y gyfadran newydd a chyffrous hon yn dilyn cyfuno Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd a’r Ysgol Feddygaeth. 

Mae Keith yn aelod annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yn academydd clinigol sy’n gweithio yn y GIG yn Abertawe. Cyn hyn, Keith oedd pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi iddo fod yn bennaeth y GIG ac ymchwil a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn Is-lywydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. 

Hyfforddodd yr Athro Lloyd fel meddyg yn Ysbyty Guy yn Llundain cyn iddo arbenigo mewn seiciatreg yn Ysbytai Bethlem & Maudsley a Sefydliad Seiciatreg, Seicoleg a’r Niwrowyddorau yn Llundain. Yna bu’n gweithio fel meddyg ymgynghorol yng Nghaerwysg a bu’n aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth y GIG yno cyn symud i Abertawe. Mae Keith yn angerddol am y rhyngwyneb rhwng ymchwil ac arloesedd ac mae hefyd yn gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru. 

Yr Athro Keith Lloyd