Is-Ganghellor

Penodwyd yr Athro Paul Boyle yn Is-ganghellor Prifysgol Abertawe yn 2019. Cyn hynny, ef oedd Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerlŷr. Yn flaenorol, Paul oedd Prif Weithredwr y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), asiantaeth ariannu fwyaf y DU ar gyfer ymchwil i'r gwyddorau cymdeithasol. Ef oedd Hyrwyddwr Rhyngwladol Research Councils UK, gyda chyfrifoldeb am strategaeth ryngwladol ar ran pob un o saith cyngor ymchwil y DU, a Llywydd Science Europe, gan gynrychioli dros 50 o asiantaethau ariannu Ewropeaidd.

Mae Paul yn un o gymrodyr yr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Academi Brydeinig ac Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol. Ef yw Cadeirydd Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesi Prifysgolion Cymru. Mae'n aelod o fwrdd Universities UK, sy'n darparu arweinyddiaeth a chefnogaeth i benaethiaid gweithredol 133 o brifysgolion yn y DU, yn ogystal â bod yn Gadeirydd Rhwydwaith Polisi Ymchwil y sefydliad hwnnw. Ef yw Is-lywydd Cymdeithas Prifysgolion Ewrop, sy'n cynrychioli mwy nag 800 o brifysgolion mewn 48 o wledydd, ac yn aelod o'i chyngor. Paul yw Cadeirydd Jisc, sefydliad nid er elw sy'n darparu gwasanaethau ac atebion digidol i sector addysg uwch ac addysg bellach y DU.

 

Paul Boyle