Dirprwy Is-ganghellor
Yn ddiweddaraf mae yr Athro Judith Lamie wedi gweithio fel Ymgynghorydd Addysg Uwch, ac mae ganddi brofiad helaeth iawn ar ôl ymgymryd ag amrywiaeth o uwch-rolau strategol ac â ffocws rhyngwladol mewn nifer o sefydliadau. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Strategaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Birmingham, Cyfarwyddwr Rhyngwladol ym Mhrifysgol Leeds, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Regent Llundain, Dirprwy Is-ganghellor (Rhyngwladol) ym Mhrifysgol Middlesex, Dirprwy Is-ganghellor (Materion Allanol) ym Mhrifysgol Derby a Chadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn NAVITAS UK.
Gan weithio ar y cyd ar draws ein Cyfadrannau a'n Gwasanaethau Proffesiynol, bydd Judith yn cefnogi ein nodau rhyngwladol uchelgeisiol drwy weithio i ehangu ein partneriaethau byd-eang, datblygu portffolio addysg drawswladol llwyddiannus, cynyddu nifer y myfyrwyr rhyngwladol rydym yn eu recriwtio a pharhau i wella ein henw fel sefydliad sy'n flaenllaw yn fyd-eang.