Nod Datblygu'r Cenhedloedd Unedig - Eicon Partneriaethau ar gyfer yr Nodau

Dyletswydd a gorchwyl pob un ohonon ni yw hyn oll. Mae'r 17 nod datblygu cynaliadwy yn alwad gyffredinol i bob gwlad weithredu, yn wledydd datblygedig a gwledydd datblygol fel ei gilydd, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ei ôl.

Drwy feddwl am y nodau, siarad amdanyn nhw, breuddwydio amdanyn nhw, ysgrifennu amdanyn nhw, eu darlunio, eu dal a gweithredu arnyn nhw, GALLWN ni a BYDDWN ni’n peri i newid ddigwydd.

Gallwch chi ddarllen rhagor am y Nod Datblygu Cynaliadwy hwn o eiddo’r Cenhedloedd Unedig yma.

PA RAI YW EICH TEIMLADAU, EICH BARN A’CH SYNIADAU AM BARTNERIAETHAU?

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Hoffen ni ichi ddisgrifio'ch barn, eich teimladau, eich pryderon neu'ch gofidion yn ogystal â'ch syniadau a'ch dyheadau mewn perthynas â sut mae’n rhaid i bob un ohonon ni weithio gyda’n gilydd i wireddu’r nodau.

I gyflwyno'ch cynnig a chael y cyfle i ennill hyd at £250 mewn talebau, cliciwch ar y botwm ar y dde.