Nod Datblygu'r Cenhedloedd Unedig – Eicon Addysg o Ansawdd Da

Mae addysg o ansawdd yn un sy'n cychwyn yn ifanc ac yn un sydd ar gael i bawb, waeth beth fo'u rhyw, eu dosbarth neu’u cyfoeth.

Mae'n golygu bod mewn amgylchedd diogel, cadarnhaol a hunanbarchus lle bydd athrawon brwdfrydig sydd wedi'u hyfforddi'n dda yn addysgu. Mae ganddo olwg ar well dyfodol i bawb ac mae ar gael heb wahaniaethu yn erbyn neb.

Gallwch chi ddarllen rhagor am y Nod Datblygu Cynaliadwy hwn o eiddo’r Cenhedloedd Unedig yma.

 

PA RAI YW EICH TEIMLADAU, EICH BARN A’CH SYNIADAU AM ADDYSG O ANSAWDD?

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Hoffen ni ichi ddisgrifio'ch barn, eich teimladau, eich pryderon neu'ch gofidion yn ogystal â'ch syniadau a'ch dyheadau mewn perthynas ag addysg.

I gyflwyno'ch cynnig a chael y cyfle i ennill hyd at £250 mewn talebau, cliciwch ar y botwm ar y dde.