Nod Datblygu'r Cenhedloedd Unedig - Eicon Gweithredu y Newid yn yr Hinsawdd

Mae'r hinsawdd yn parhau i newid a hyd yn oed o ystyried yr holl fesurau a gymerir, bydd yn cymryd degawdau i wyrdroi cynhesu byd-eang.

Drwy feithrin gwytnwch a thrwy addysgu a chefnogi pob gwlad i weithio gyda'i gilydd, byddwn ni’n gallu lliniaru ac addasu i newidiadau yn yr hinsawdd a'u heffeithiau ar y blaned a phobl ym mhob man.

Gallwch chi ddarllen rhagor am y Nod Datblygu Cynaliadwy hwn o eiddo’r Cenhedloedd Unedig yma.

PA RAI YW EICH TEIMLADAU, EICH BARN A’CH SYNIADAU AM WEITHREDU AR Y NEWID YN YR HINSAWDD?

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Hoffen ni ichi ddisgrifio'ch barn, eich teimladau, eich pryderon neu'ch gofidion yn ogystal â'ch syniadau a'ch dyheadau mewn perthynas â gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd.

I gyflwyno'ch cynnig a chael y cyfle i ennill hyd at £250 mewn talebau, cliciwch ar y botwm ar y dde.