Nod Datblygu'r Cenhedloedd Unedig - Diwydiant, Arloesi a Seilwaith

Mae twf economaidd, datblygiad cymdeithasol a gweithredu ym maes yr hinsawdd yn dibynnu ar fuddsoddiadau mewn seilwaith, datblygu diwydiannol cynaliadwy, cymorth technolegol a mynediad fforddiadwy a dibynadwy at y rhyngrwyd i bawb.

Heb dwf cynaliadwy yn y meysydd hyn bydd byd teg, cyfartal a hygyrch yn parhau i fod, i lawer ohonon ni, y tu hwnt i'n gafael.

Gallwch chi ddarllen rhagor am y Nod Datblygu Cynaliadwy hwn o eiddo’r Cenhedloedd Unedig yma.

PA RAI YW EICH TEIMLADAU, EICH BARN A’CH SYNIADAU AM DDIWYDIANT, ARLOESI A SEILWAITH?

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Hoffen ni ichi ddisgrifio'ch barn, eich teimladau, eich pryderon neu'ch gofidion yn ogystal â'ch syniadau a'ch dyheadau mewn perthynas â diwydiant, arloesi a seilwaith.

I gyflwyno'ch cynnig a chael y cyfle i ennill hyd at £250 mewn talebau, cliciwch ar y botwm ar y dde.