Datganiad Preifatrwydd Cynaliadwyedd ar gyfer y gystadleuaeth Dau ar Bymtheg

Pwy ydym ni?

Mae'r Tîm Cynaliadwyedd yn rhan o Gyfrifoldeb Corfforaethol yn Ystadau a Rheoli Cyfleusterau.  Rydym yn darparu cymorth ac arweiniad i'r Brifysgol ar ystod eang o bynciau cynaliadwyedd gan gynnwys teithio, carbon, bioamrywiaeth, gwastraff a gwaith rheoli'r amgylchedd cyffredinol.

Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu gennych chi?

Er diben cynnal y prosiect a'r gystadleuaeth Dau ar Bymtheg, mae ar y Tîm Cynaliadwyedd angen yr wybodaeth bersonol ganlynol gennych chi:

  • Enw cyntaf a chyfenw
  • Côd Post
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn cyswllt
  • Blwyddyn astudio neu gyfwerth
  • Nod(au) Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig o'ch dewis
  • Elfen ysgrifenedig
  • Lleoliad astudio neu weithio (dewisol)
  • Elfen weledol (dewisol; wedi'i threfnu gan y Tîm Cynaliadwyedd ar ôl proses feirniadu'r gystadleuaeth)

Sut a pham y defnyddir eich gwybodaeth?

Bydd y Tîm Cynaliadwyedd yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych er mwyn cyflwyno, beirniadu a hyrwyddo'r prosiect Dau ar Bymtheg.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Cadarnhau bod eich blwyddyn astudio neu gyfwerth yn bodloni'r gofynion mynediad
  • Cadarnhau eich bod yn byw yn ardal Bae Abertawe er mwyn bodloni'r gofynion mynediad
  • Beirniadu'r ceisiadau i'r gystadleuaeth
  • Cysylltu â'r enillwyr
  • Arddangos y ceisiadau buddugol ac enw'r enillydd ar-lein ac mewn arddangosfa (yn lleol ac yn y DU ehangach)

Mae prosesu eich data personol yn Niddordebau Dilys Prifysgol Abertawe er mwyn gweinyddu'r gystadleuaeth Dau ar Bymtheg a chyflawni'r wobr.

A fydd unrhyw waith penderfynu neu broffilio wedi'i awtomeiddio?

Ni fydd y Tîm Cynaliadwyedd yn defnyddio'r wybodaeth am unrhyw waith penderfynu neu broffilio wedi'i awtomeiddio.

Pwy sy'n gallu cael mynediad at eich gwybodaeth?

Rydym yn defnyddio prosesydd data er mwyn casglu gwybodaeth gennych ar adeg cyflwyno cais i'r gystadleuaeth.  Rhennir gwybodaeth amdanoch â staff priodol yn y Brifysgol ac unigolion allanol detholedig fel rhan o broses feirniadu'r gystadleuaeth.  Dangosir enw, elfen ysgrifenedig ac elfen weledol ddewisol enillydd y gystadleuaeth ar gyfer pob Nod Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn ystod arddangosiadau ac ar-lein.  Cesglir data personol drwy Microsoft Forms sy'n gweithredu fel prosesydd data ar ran y Brifysgol.  Ni fydd Microsoft yn prosesu data ond er dibenion penodol a nodir gan y Brifysgol a bydd dan orfodaeth contract i fodloni rhwymedigaethau'r Brifysgol yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Am ba hyd y cedwir eich gwybodaeth?

Ni chedwir y data personol yr ydych yn ei darparu ar ffurf sy'n ein galluogi i adnabod testunau data am hwy nag y mae ei angen er dibenion y caiff y data personol ei brosesu ar eu cyfer.  Er diben Dau ar Bymtheg, y cyfnod cadw yw pedair blynedd.

A drosglwyddir eich data dramor?

Ni throsglwyddir eich gwybodaeth y tu allan i'r UE.

Ble y gallaf gael gwybod rhagor? 

Prifysgol Abertawe yw'r Rheolydd Data ac mae'n ymrwymedig i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae gan y Brifysgol Swyddog Diogelu Data a gellir cysylltu â'r unigolyn yma.