Nod Datblygu'r Cenhedloedd Unedig - Eicon Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy

Mae dinasoedd a chymunedau cynaliadwy yn golygu bod ein hardaloedd trefol ac adeiledig yn fannau cynhwysol, diogel a gwydn y gellir eu haddasu i newidiadau yn yr hinsawdd.

Mewn dinasoedd cynaliadwy, mae gan bawb fynediad at dai diogel o ansawdd a gwasanaethau sylfaenol. Mae'r aer rydyn ni'n ei anadlu mewn dinasoedd a chymunedau cynaliadwy yn lân ac mae ein gwastraff yn cael ei reoli; rydyn ni’n gwerthfawrogi ac yn diogelu’n hamgylchedd ac mae gennym ni fynediad at drafnidiaeth ddiogel, reolaidd a fforddiadwy.

Gallwch chi ddarllen rhagor am y Nod Datblygu Cynaliadwy hwn o eiddo’r Cenhedloedd Unedig yma.

 

PA RAI YW EICH TEIMLADAU, EICH BARN A’CH SYNIADAU AM DDINASOEDD A CHYMUNEDAU CYNALIADWY?

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Hoffen ni ichi ddisgrifio'ch barn, eich teimladau, eich pryderon neu'ch gofidion yn ogystal â'ch syniadau a'ch dyheadau mewn perthynas â dinasoedd a chymunedau cynaliadwy.

I gyflwyno'ch cynnig a chael y cyfle i ennill hyd at £250 mewn talebau, cliciwch ar y botwm ar y dde.