Nod Datblygu'r Cenhedloedd Unedig - Eicon Ynni Fforddiadwy a Glân

I'r rhan fwyaf ohonon ni ledled y blaned, rydyn ni’n dibynnu o hyd ar ynni tanwydd ffosil sy'n llygru'n fawr iawn, yn ddwys o ran adnoddau ac yn niweidiol.

Drwy gydweithio i ddatblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy sy’n effeithlon o ran ynni, gall gwledydd ehangu’u systemau a'u cyflenwadau ynni mewn ffordd gynaliadwy, lân a dibynadwy, gan sicrhau mynediad pawb at ynni glân.

Gallwch chi ddarllen rhagor am y Nod Datblygu Cynaliadwy hwn o eiddo’r Cenhedloedd Unedig yma.

PA RAI YW EICH TEIMLADAU, EICH BARN A’CH SYNIADAU AM YNNI  FFORDDIADWY A GLÂN?

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Hoffen ni ichi ddisgrifio'ch barn, eich teimladau, eich pryderon neu'ch gofidion yn ogystal â'ch syniadau a'ch dyheadau mewn perthynas ag ynni  fforddiaddwy a glân.

I gyflwyno'ch cynnig a chael y cyfle i ennill hyd at £250 mewn talebau, cliciwch ar y botwm ar y dde.