Nod Datblygu'r Cenhedloedd Unedig - Iechyd Da a Llesiant

Gall iechyd a llesiant da olygu bod gan fam le diogel ac iach i esgor ar ei baban, byw'n ddedwydd ac yn ddiogel yn ystod plentyndod cynnar, cael eich diogelu rhag afiechydon a chlefydau y gellir eu hatal, adnabod eich corff a'ch hawliau, mynediad at ofal iechyd a byw bywyd dedwydd, iach a boddhaus. Mae’n golygu peidio â gorfod dioddef yn ddiangen.

Gallwch chi ddarllen rhagor am y Nod Datblygu Cynaliadwy hwn o eiddo’r Cenhedloedd Unedig yma.

 

PA RAI YW EICH TEIMLADAU, EICH BARN A’CH SYNIADAU AM IECHYD A LLESIANT?

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Hoffen ni ichi ddisgrifio'ch barn, eich teimladau, eich pryderon neu'ch gofidion yn ogystal â'ch syniadau a'ch dyheadau mewn perthynas ag iechyd a llesiant.

I gyflwyno'ch cynnig a chael y cyfle i ennill hyd at £250 mewn talebau, cliciwch ar y botwm ar y dde.