Nod Datblygu'r Cenhedloedd Unedig - Cydraddoldeb Rhywiol

Mae cydraddoldeb rhywiol yn golygu cydnabod bod menywod a merched yn cynrychioli hanner poblogaeth y byd ac o'r herwydd, hanner ei botensial.

Drwy roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cydnabod eu gwerth yn y gwaith ac yn y cartref, annog menywod a merched i gymryd rhan ym mhob cyd-destun gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol ac ymladd dros hawliau cyfartal yn unol â’r gyfraith, byddwn ni’n eu hatal rhag byw bywydau difreintiedig.

Gallwch chi ddarllen rhagor am y Nod Datblygu Cynaliadwy hwn o eiddo’r Cenhedloedd Unedig yma.

PA RAI YW EICH TEIMLADAU, EICH BARN A’CH SYNIADAU AM GYDRADDOLDEB RHYWIOL?

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Hoffen ni ichi ddisgrifio'ch barn, eich teimladau, eich pryderon neu'ch gofidion yn ogystal â'ch syniadau a'ch dyheadau mewn perthynas â chydraddoldeb rhywiol.

I gyflwyno'ch cynnig a chael y cyfle i ennill hyd at £250 mewn talebau, cliciwch ar y botwm ar y dde.