Nod Datblygu'r Cenhedloedd Unedig - Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol

Mae proses defnyddio a chynhyrchu’n gyfrifol yn golygu nad oes unrhyw niwed i fyd natur nac i’r ddynoliaeth unwaith y bydd cynnyrch yn gadael y gweithgynhyrchwr hyd nes y bydd yn cyrraedd y defnyddiwr a bod y broses hon yn cynhyrchu cyn lleied o wastraff â phosibl.

Dylai cwmnïau fod yn agored ac yn gyfrifol am eu harferion a dylai'r cyhoedd gael gwybod am y rhain a chael ei addysgu amdanyn nhw.

Gallwch chi ddarllen rhagor am y Nod Datblygu Cynaliadwy hwn o eiddo’r Cenhedloedd Unedig yma.

PA RAI YW EICH TEIMLADAU, EICH BARN A’CH SYNIADAU AM DDEFNYDDIO A CHYNHYRCHU’N GYFRIFOL?

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Hoffen ni ichi ddisgrifio'ch barn, eich teimladau, eich pryderon neu'ch gofidion yn ogystal â'ch syniadau a'ch dyheadau mewn perthynas â defnyddio a chynhyrchu’n gyfrifol.

I gyflwyno'ch cynnig a chael y cyfle i ennill hyd at £250 mewn talebau, cliciwch ar y botwm ar y dde.