Llun o'r awyr o gampws y bae yn dangos glan y môr

Ers 2010, rydym ni wedi dechrau rhaglen o drawsnewid sylweddol sy'n buddsoddi ym mhrofiad y myfyrwyr a chyfleusterau academaidd ac ymchwil. Mae'n datblygiad wedi cynnwys adeiladu Campws y Bae, a ddyblodd faint y Brifysgol dros nos.

Bydd IMPACT yn galluogi newid sylweddol mewn ymchwil ac arloesi o fewn y grwpiau ymchwil rhagorol sydd eisoes yn y Coleg Peirianneg ym meysydd Technolegau Deunyddiau, Prosesu a Rhifiadol.

Bydd y Ffowndri Gyfrifiadol yn sefydlu ecosystem ddigidol ag iddi enw rhyngwladol ar gyfer ymchwil cyfrifiadureg dan dair thema Cynnal Bywyd, Gwella Bywyd, a Sicrhau Bywyd.

Mae Y Coleg, Prifysgol Abertawe, yn darparu llwybrau israddedig ac ôl-raddedig yn yr adeilad newydd hwn, sydd hefyd yn cynnig mannau astudio a chymdeithasol ar gyfer holl fyfyrwyr y Brifysgol.