Gwybodaeth Contractwyr Ystadau a Rheoli Cyfleusterau

Rhaid trefnu contractwyr i weithio ar hanfod neu wasanaethau adeilad drwy dîm Gwasanaethau Technegol Ystadau a Rheoli Cyfleusterau wshelpdesk@abertawe.ac.uk.

Polisi'r Brifysgol

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig, cyhyd ag y bo'n rhesymol ymarferol, i sicrhau y caiff ei gweithgareddau busnes eu cynnal mewn ffordd nad yw'n achosi salwch nac anaf i staff, myfyrwyr, ymwelwyr, contractwyr nad unrhyw un y gallai'r gweithgareddau hynny effeithio arnynt, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

Mae'r Polisi Iechyd, Diogelwch a Gwydnwch y Brifysgol, ynghyd â threfniadau cysylltiedig yn berthnasol i gyflogeion a gweithgareddau contractwyr.

Mae trefniadau penodol yn y Brifysgol ar waith i sicrhau y caiff contractwyr yn y Brifysgol eu rheoli, gan gynnwys trefniadau er mwyn gwneud y canlynol:

  • Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol ac ymgymryd â dyletswyddau statudol sy'n gysylltiedig ag unrhyw gontractwyr.
  • Nodi cymhwysedd contractwyr a monitro perfformiad contractwyr tra byddant yn gwneud gwaith ar gampws y Brifysgol, a/neu wrth weithio ar ran y Brifysgol. Gallai ymarferion gweithio anniogel neu amhriodol arwain at ddod â'r gweithgaredd i ben/terfynu'r contract.
  • Cyfathrebu, cydweithio ac ymgynghori â chontractwyr yn brydlon, gan alluogi'r holl bartïon i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol y Brifysgol
  • Galluogi ymagwedd ragweithiol, sy'n seiliedig ar risg mewn perthynas â holl weithgareddau contractwyr.
    • Nodi a rheoli risg a rhoi trefniadau rheoli risg effeithiol sy'n cael eu cyfathrebu a'u deall ar waith.
    • Nodi a rheoli gweithgareddau risg uchel, gan ddefnyddio system trwydded i waith y Brifysgol
  • Darparu goruchwyliaeth briodol, ac fel y bo'n berthnasol, cynnig gwybodaeth, cyfarwyddiadau a hyfforddiant iechyd a diogelwch.

Gofynion Contractwyr

Rhaid bod gan yr holl gontractwyr fynediad at gyngor iechyd a diogelwch cymwys a chydymffurfio â holl ofynion cyfreithiol y Brifysgol, gan sicrhau bod eu gweithgareddau'n cael eu cynnal mewn ffordd sy'n lleiafu'r risgiau iddyn nhw eu hunain ac eraill y gellir bod effaith arnynt.

Ar y campws:

  • Cofrestrwch wrth gyrraedd y campws gyda Gwasanaethau Technegol Ystadau neu'r Prif Gontractwr:
  • Campws Singleton – Adeilad Talbot, Ystafell 004, Mynedfa'r De
  • Campws y Bae – Nanhyfer, Llawr Cyntaf, Ystafell 107
  • Dylech gynnal gwaith yn unol â'ch asesiad risg a'ch datganiad o ddull.
  • Dylech adrodd am unrhyw broblemau neu bryderon i Ystadau a Rheoli Cyfleusterau cyn gynted â phosib
  • Dylech lynu wrth côd ymddygiad (ar gael gan eich cyswllt yn y Brifysgol)
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gyfarwydd â threfn eich amgylchedd gwaith, eich bod chi'n deall y peryglon, y risgiau a'r mesurau rheoli sydd ar waith.
  • Rhaid glynu wrth reolau a gofynion adrannol, e.e. ardaloedd cyfyngedig/gweithgareddau a waherddir
  • Sicrhewch fod unrhyw offer sy'n cael ei ddefnyddio fel rhan o'r contract yn addas at y diben ac yn cael ei gynnal
  • Rhaid cydymffurfio â pholisi digwyddiadau niweidiol y Brifysgol, os bydd digwyddiad neu ddigwyddiad y llwyddwyd i’w osgoi o drwch blewyn.
  • Ewch ag unrhyw allweddi neu gardiau mynediad yn ôl i Ystadau pan fyddwch chi'n gadael y campws
  • Gadewch eich gwaith mewn cyflwr glân a diogel
  • Rhaid glynu wrth drefniadau parcio'r Brifysgol