Byw oddi ar y campws
Os ydych chi'n penderfynu y byddai'n well gennych chi fyw oddi ar y campws neu os ydych chi'n chwilio am lety yn eich ail neu drydedd flwyddyn, gall Gwasanaethau Llety Myfyrwyr, a elwir hefyd yn SAS Lettings, eich helpu chi i ddod o hyd i'r cartref delfrydol yn Abertawe.
St Thomas a Phort Tennant
- Lleoliad delfrydol ar gyfer Campws y Bae a chanol y ddinas, gyda barrau, siopau a bwytai
- Tai 4-6 ystafell wely yn bennaf
- 5 i 10 munud o gerdded i Gampws y Bae
Cysylltu â SAS
Mae'r tîm SAS am sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau o fyw yn Abertawe ac rydym ni wrth law i'ch cefnogi chi bob cam o'r ffordd. E-bostiwch neu ffoniwch ni gyda chwestiynau neu ewch i Swyddfa SAS yn Adeilad Horton ar Gampws Parc Singleton.