Gwybodaeth ddefnyddiol i breswylwyr
Dyma bopeth y bydd angen i ti ei wybod am fod yn breswylydd mewn neuadd breswyl, o gysylltu â'r Wi-Fi a gwirio pan fydd peiriannau golchi ar gael, i roi gwybod am atgyweiriadau.
Dyma bopeth y bydd angen i ti ei wybod am fod yn breswylydd mewn neuadd breswyl, o gysylltu â'r Wi-Fi a gwirio pan fydd peiriannau golchi ar gael, i roi gwybod am atgyweiriadau.
Nodweddion Diogelwch
Mae gan yr holl adeiladau preswyl drefniadau diogelwch tân ar waith sy'n cynnwys systemau canfod tân sy'n hollol awtomatig ac o safon, yn ogystal â mannau ffonio sy'n galluogi pobl i ganu'r larwm yn gyflym.
Mae gan holl adeiladau'r Brifysgol nodweddion diogelu rhag tân er mwyn gwacáu pobl yn ddiogel ac yn amserol. Mae'r rhain yn cynnwys grisiau dianc sydd â drysau diogelu a drysau tân gwell.
Prosesau Gwacáu
Mae pob myfyriwr yn derbyn gwybodaeth am ddiogelwch tân, gan gynnwys gwacáu adeiladau'n ddiogel, fel rhan o'i broses sefydlu.
Cynhelir ymarferion tân llawn ym mhob adeilad preswyl yn ystod wythnosau cyntaf y tymor newydd. Gwneir trefniadau arbennig i wacáu myfyrwyr sydd â phroblemau symudedd neu broblemau eraill, er enghraifft, nam ar y clyw neu'r golwg, a allai effeithio ar y broses gadael mewn argyfwng. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch yn ystod y flwyddyn oherwydd newidiadau o ran symudedd, cofia sicrhau dy fod yn rhoi gwybod i aelod o'r tîm. Gelli di siarad â staff y safle.
Bydd larwm tân y prif adeilad yn canu pan fydd dyfais darganfod awtomatig neu fan galw â llaw yn derbyn signal cynnau tân. Mae hyn yn rhybuddio'r tîm diogelwch 24 awr ar y safle, a chysylltir â'r gwasanaethau tân brys ar unwaith.
Mae gan bob adeilad preswyl weithdrefn gwacáu mewn argyfwng lawn a brys pan fydd y larwm tân yn canu. Fel rheol gyffredinol, caiff adeiladau eu gwacáu'n llawn o fewn pedair munud.
Mae'r nodweddion diogelwch a'r prosesau gwacáu hyn ar waith beth bynnag fydd uchder yr adeilad.
Mae ymgynghorwyr tân allanol annibynnol a chymwys wedi cynnal asesiadau risg tân ar bob adeilad yn y Brifysgol yn ddiweddar.
Mae dyletswyddau arolygu statudol penodol gan y Brifysgol a'r cwmnïau perthnasol sy'n rheoli preswylfeydd myfyrwyr. Mae'r rhain yn cynnwys profi mesurau diogelwch tân allweddol yn rheolaidd, sef drysau tân, goleuadau mewn argyfwng a gwaith cynnal a chadw ar y larymau tân.
Cladin
Nid oes gan un o'n hadeiladau preswyl i fyfyrwyr weddluniau allanol â chladin llawn arnynt. Fodd bynnag, mae gan rai o'n hadeiladau fannau o gladin panel fel arddun. Yn ddiweddar, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi arolygu pob un o'r adeiladau uchel iawn i fyfyrwyr, ac nid oes pryderon ganddo o ran y paneli allanol hyn.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnat am y pwnc hwn, e-bostia dîm Iechyd a Diogelwch y Brifysgol yn:
healthandsafety@abertawe.ac.uk neu ffonia 01792 6063134
Mae’r Brifysgol yn cynnig WiFi am ddim i fyfyrwyr ac mae cysylltiad Wifi ar gael ym mhob un o'n preswylfeydd.
Eduroam yw Rhwydwaith Diwifr Academaidd y Brifysgol, sydd ar gael ar Gampws Parc Singleton, ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan ac yn Nhŷ Beck, ac mae'n addas ar gyfer amrywiaeth eang o ddyfeisiau. Dylid defnyddio Eduroam ar gyfer popeth ar wahân i ddyfeisiau chwarae gemau a dyfeisiau'r rhyngrwyd o bethau (Swansea Uni-play). Mae angen i ddefnyddwyr gofrestru pob dyfais i ddefnyddio'r rhwydwaith: Cofrestru ar gyfer Eduroam.
Dylai preswylwyr Campws y Bae gysylltu â rhwydwaith Optify.
Os ydych yn byw mewn llety wedi'i rentu drwy SAS, cysylltwch â thîm SAS am gymorth i gael mynediad at WiFi.
Mae Uni-Play Abertawe yn rhwydwaith ar gyfer consolau gemau a dyfeisiau Wi-Fi megis Amazon Echo/Dot etc. Nid oes gan y rhwydwaith hwn nodweddion diogelwch Eduroam a bwriedir iddo gael ei ddefnyddio gyda dyfeisiau chwarae gemau a dyfeisiau rhyngrwyd. Mae'n defnyddio'r un lefel o ddiogelwch â rhwydwaith cartref â chyfrinair wedi'i rannu.
Ydy dy fasged golchi dillad yn llawn? Dim dillad glân i'w gwisgo? Gelli di wirio a oes peiriant golchi ar gael yn dy breswylfa.
Mae llawer o opsiynau ar gael i ti symud o gwmpas y ddinas yn ddiogel. Gelli di gynllunio dy deithiau o gwmpas Abertawe â Traveline, sy'n cynnwys yr holl wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus y bydd angen i ti ei gwybod er mwyn teithio yn Abertawe ac o'i chwmpas.
Hefyd, gelli di seiclo a defnyddio'r beiciau am ddim sydd ar gael i fyfyrwyr Teithio Llesol - Prifysgol Abertawe
Gwybodaeth am Gampws y Bae
Manylion cyswllt
Rydym ni yng Nghanolfan Wybodaeth y Tŵr
E-bost: baycampus@upp-ltd.com (ymholiadau cyffredinol)
Dylid cyflwyno ceisiadau cynnal a chadw drwy Home at Halls.
Mae'r Tîm yn nerbynfa'r Tŵr
Ffôn: 01792 954500 (Dydd Llun - dydd Gwener 08:30 – 17:00)
Ar gyfer Argyfyngau y tu allan i oriau, ffonia dîm Diogelwch y Bae Prifysgol Abertawe ar 01792 606010
Cyfeiriad
Dy gyfeiriad yw cod dy adeilad, rhif y fflat, rhif dy ystafell. Er enghraifft, mae GWE001/07 yn golygu Fflat Gwenllian 001, Ystafell 7 (Gweler y Cytundeb Tenantiaeth a anfonwyd atat am ragor o fanylion). Nid yw rhif y fflat yn cyfeirio at rif y llawr.
Dylid rhoi dy gyfeiriad yn glir ac yn llawn. Er enghraifft:
GWE001/07
Neuadd Gwenllian
Llety Myfyrwyr
Prifysgol Abertawe
Campws y Bae
Ffordd Fabian
SA1 8EP
Post
Mae'r Ystafell Bost ar bwys Derbynfa Preswylfa Campws y Bae ar waelod y Tŵr. Bydd y Dderbynfa'n llofnodi wrth dderbyn unrhyw bost neu barseli ac yn anfon e-bost at dy gyfrif myfyriwr i roi gwybod i ti. Dylet ddod â phrawf adnabod (dy gerdyn adnabod myfyriwr) pan fyddi di'n dod i gasglu dy barsel. Os nad oes dull adnabod â llun gennyt, ni fydd modd i ti gasglu dy bost.
Am wybodaeth am gyfeiriadau post y Deyrnas Unedig a phost rhyngwladol, cer i: Arweiniad y Post Brenhinol i Nodi Cyfeiriad ar dy Bost.
Cyngor ar ddanfon post yn y Deyrnas Unedig, gweler Awgrymiadau Euraidd y Post Brenhinol ar gyfer Anfon Post.
Cofia ailgyfeirio dy bost a diweddaru dy Gyfrif Mewnrwyd os wyt ti'n symud. Gweler: Ailgyfeirio dy bost am ragor o wybodaeth.
Bydd ein hystafelloedd post yn mynd yn brysur, felly rydym yn annog ein myfyrwyr i ddefnyddio loceri Amazon pan fo'n bosibl.
Dogfennau pwysig:
(H.01) Residents' Handbook Bay Campus
Tystysgrif Yswiriant Campws y Bae
Manylion cyswllt
Rydym ni ar waelod Preswylfa Preseli.
E-bost: preseli-reception@abertawe.ac.uk
Rhoi gwybod am Broblem
Rhowch wybod am broblem Cynnal a Chadw yn eich llety yma.
Os yw'r atgyweiriad yn waith brys, ffonia: +44 (0) 1792 602910 neu cer i'r dderbynfa rhwng 08.30 a 16.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ar ôl rhoi gwybod bod angen atgyweirio:
Cyfeiriad
Dy gyfeiriad yw cod dy neuadd, rhif y fflat, rhif dy ystafell. Er enghraifft, mae CAS001/09 yn golygu Caswell, Fflat 001, Ystafell 9 (Gweler y Cytundeb Tenantiaeth a anfonwyd atat am fanylion). Nid yw rhif y fflat yn cyfeirio at rif y llawr.
CAS001/09
CASWELL
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PJ
Gan ddibynnu ar dy breswylfa, bydd dy gôd post yn amrywio. Gweler isod ar gyfer dy gôd post:
Caswell: SA2 8PJ
Cefn Bryn: SA2 8PT
Horton: SA2 8PH
Cilfái: SA2 8PU
Langland: SA2 8PL
Oxwich: SA2 8PQ
Penmaen: SA2 8PG
Preseli: SA2 8PS
Rhosili: SA2 8PT
Post:
Caiff post ei gadw'n ddiogel yn yr ardal bost ym Mhreswylfa Preseli. Mae angen i ti ddangos dull adnabod â llun (cerdyn myfyriwr) er mwyn casglu post a pharseli. Os nad oes dull adnabod â llun gennyt, ni fydd modd i ti gasglu post a pharseli.
Am wybodaeth am gyfeiriadau post y Deyrnas Unedig a phost rhyngwladol, cer i: Arweiniad y Post Brenhinol i Nodi Cyfeiriad ar dy Bost.
Am gyngor ar anfon post yn y Deyrnas Unedig cer i: Awgrymiadau Euraidd y Post Brenhinol ar gyfer Anfon Post
Cofia ailgyfeirio dy bost a diweddaru dy Gyfrif Mewnrwyd os wyt ti'n symud. Gweler: Ailgyfeirio dy bost am ragor o wybodaeth.
Manylion cyswllt
Fflat 138 (llawr gwaelod 136-144).
Oriau Agor Swyddfa'r Dderbynfa: Dydd Llun i ddydd Gwener 09:00 tan 16.30
Rhoi gwybod am Broblem
Rhowch wybod am broblem Cynnal a Chadw yn eich llety yma.
Os yw'r atgyweiriad yn waith brys, ffonia:Rhif ffôn: +44 (0) 1792 295583 neu cer i Swyddfa'r Dderbynfa yn ystod oriau agor y swyddfa.
Ar ôl rhoi gwybod bod angen atgyweirio:
Cyfeiriad
Dy gyfeiriad yw cod dy adeilad, rhif y fflat, rhif dy ystafell. Er enghraifft, mae HSV234/07 yn golygu Hendrefoelan Fflat 234, Ystafell 7, (Gweler dy Gytundeb Tenantiaeth a anfonwyd atat am fanylion). Nid yw rhif y fflat yn cyfeirio at rif y llawr.
HSV234/07
Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan
Sgeti
Abertawe
SA2 7QW
Gan ddibynnu ar rif dy fflat neu rif dy dŷ, bydd dy gôd post yn amrywio. Gweler dy gôd post isod:
136-165: SA2 7QL
166-195: SA2 7QN
196-233: SA2 7QW
Post
Bydd y Dderbynfa'n llofnodi wrth dderbyn unrhyw bost neu barseli ac yn anfon e-bost at dy gyfrif myfyriwr i roi gwybod i ti. Dylet ti ddod â phrawf adnabod (dy gerdyn adnabod myfyriwr) pan fyddi di'n dod i gasglu dy barsel. Heb y dull adnabod gofynnol â llun, ni fydd modd i ti gasglu dy bost a dy barsel.
Am wybodaeth am gyfeiriadau post y Deyrnas Unedig a phost rhyngwladol, cer i: Arweiniad y Post Brenhinol i Nodi Cyfeiriad ar dy Bost.
Am gyngor ar anfon post yn y Deyrnas Unedig, cer i: Awgrymiadau Euraidd y Post Brenhinol ar gyfer Anfon Post
Cofia ailgyfeirio dy bost a diweddaru dy Gyfrif Mewnrwyd os wyt ti'n symud. Gweler: Ailgyfeirio dy bost am ragor o wybodaeth.
Launderette
Fflat 138 (llawr gwaelod 136-144)
Oriau agor Launderette fydd dydd Llun - dydd Gwener 08:00 - 22:00
Manylion cyswllt
Bydd Derbynfa Tŷ Beck ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 08:00 - 16:00
E-bost: beck-reception@abertawe.ac.uk
Rhoi gwybod am Broblem
Rhowch wybod am broblem Cynnal a Chadw yn eich llety yma.
Os oes angen i ti roi gwybod am atgyweiriad brys, ffonia +44 (0) 1792 534043 neu cer i Dderbynfa Tŷ Beck.
Wrth roi gwybod bod angen atgyweirio rhywbeth:
Cyfeiriad
Dy gyfeiriad yw cod dy neuadd, rhif y fflat, rhif dy ystafell. Er enghraifft, mae BH D02/09 yn golygu Tŷ Beck, Bloc D, Fflat 02, Ystafell 9 (gweler y Cytundeb Tenantiaeth a anfonwyd atat am fanylion). Nid yw rhif y fflat yn cyfeirio at rif y llawr.
BH D02/09
Bloc D
Tŷ Beck
Heol Sgeti
Uplands
Abertawe
SA2 0NG
Gan ddibynnu ar dy floc, bydd dy gôd post yn amrywio. Gweler dy gôd post isod:
Bloc A: SA2 0NF
Bloc B: SA2 0NF
Bloc C: SA2 0NF
Bloc D: SA2 0NG
Bloc E: SA2 0NH
Bloc F: SA2 0NL
Bloc G: SA2 0NL
Post
Caiff post ei drefnu a'i gadw yn y dderbynfa. Anfonir e-bost atat pan elli di gasglu hwn. Bydd angen i ti ddangos dull adnabod â llun er mwyn casglu post a pharseli. Os nad wyt ti'n dangos dull adnabod â llun, ni fydd modd i ti gasglu post neu barseli.
Am wybodaeth am gyfeiriadau post y Deyrnas Unedig a phost rhyngwladol, cer i: Arweiniad y Post Brenhinol i Nodi Cyfeiriad ar dy Bost.
Am gyngor ar anfon post yn y Deyrnas Unedig, cer i: Awgrymiadau Euraidd y Post Brenhinol ar gyfer Anfon Post
Cofia ailgyfeirio dy bost a diweddaru dy Gyfrif Mewnrwyd os wyt ti'n symud. Gweler: Ailgyfeirio dy bost am ragor o wybodaeth.
Manylion Dyswllt
Mae tîm SAS Lettings yn gweithio yn y Swyddfa Lety, Adeilad Horton, Campws Parc Singleton.
E-bost: SAS@abertawe.ac.uk
Ffôn: +44 (0)1792 295328
Oriau Agor y Dderbynfa: Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am – 12:30pm ac 1pm – 4pm (Ac eithrio Gwyliau Banc).
Rhoi Gwybod am Broblem
Rhoi gwybod am broblem neu atgyweiriad Cynnal a Chadw yn dy lety drwy ddefnyddio'r ffurflen hon.
Os yw'r atgyweiriad yn waith brys, ffonia: +44 (0) 1792 295101 - Dydd Llun i ddydd Gwener , 9am i 4pm.
Y tu allan i'r oriau hyn, ffoniwch swyddogion Diogelwch y Campws ar +44 (0)1792604271 i gael cymorth mewn argyfwng.
• Bydd y contractwyr cynnal a chadw ADS yn gweithio ar bob achos cynnal a chadw.
• Bydd staff ADS yng ngwisg y cwmni, felly byddi di'n gweld eu logo ac yn gwybod mai SAS Lettings sydd wedi gofyn iddynt fod yno.
• Mae gan staff ADS fynediad at y llety, felly nid oes angen i ti fod yn bresennol pan fydd disgwyl i aelod o dîm ADS ymweld.
Cymorth Ychwanegol
Dylai'r hysbysfwrdd cymunedol yn dy lety ddangos gwybodaeth bwysig.
Cer i'r tudalennau Cymorth neu cysyllta â'r tîm yn uniongyrchol am ragor o arweiniad.