Dewch i gwrdd â'ch cyfeillion tŷ yma a chreu eich grwpiau fflat Facebook eich hunain. Trafodwch pwy sy'n dod â beth i osgoi cael nifer o dostwyr mewn un gegin!
Grŵp Facebook Parc Singleton
Casgliad allweddi Parc Singleton
Os dyrannwyd llety i chi ar gampws Parc Singleton gallwch gasglu eich allweddi ym mhabell Llety y tu allan i breswylfa Oxwich
Dydd Llun-dydd Gwener-9:00am i 7:00pm-(ac eithrio gwyliau banc)
• Cyrraedd allan o'r oriau hyn? E-bostiwch ni: Preseli-reception@swansea.ac.uk i drefnu cyrraedd.
Ble i gasglu eich allweddi.
• Cliciwch yma am gyfarwyddiadau i'r campws.
• Ar ôl i chi gyrraedd, bydd angen i chi fynd i'r babell lety, cliciwch yma i lawrlwytho map Campws Singleton
Pa gerdiau adnabod bydd angen arnaf i gasglu fy allweddu?
I gasglu eich allweddi i'ch llety, bydd angen eich pàs cyrraedd. (Gallwch hefyd ddangos hwn ar eich ffôn chi!) Bydd hwn ar gael yn eich cyfrif llety ar unrhyw adeg ar ôl i chi dderbyn eich cynnig a chwblhau eich cyfnod sefydlu. Mae copi o'r cytundeb tenantiaeth yn dderbyniol hefyd.
Angen mwy o wybodaeth?
Bydd eich tudalen gwybodaeth i breswylwyr yn rhoi gwybodaeth i chi am bopeth y bydd ei angen arnoch drwy gydol eich amser mewn preswylfeydd megis:
• Cyfeiriad a chodau post a manylion trwyddedi Teledu
• Cwrdd â'ch cymdogion a dewch i wybod pwy sy'n dod â beth!
• Dylai'r canllaw i breswylwyr ateb yr holl gwestiynau hynny gan y tîm diogelwch, sut i roi gwybod am waith trwsio, a lle i wneud eich golch!
• A gwybodaeth fel bwyd, chwaraeon, a chyfleusterau o gwmpas yr uni!
Lawrlwythwch eich (Ll.04) Llawlyfr i Breswylwyr Singleton 2019 yma.