Ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer addurno eich ystafell yn y Brifysgol ar gyllideb sy’n fyfyriwr-gyfeillgar? Gwyliwch ein fideo gweddnewid ystafell gyda’r Dylunydd Mewnol, Shelley Matthews, yn ogystal â chyngor Mikaela ar gyfer gweddnewid eich ystafell fyfyriwr yn ardal fyw ddelfrydol! 

10 ffordd o addurno ystafell myfyriwr ar gyllideb

Gan Mikaela Price

Er y gall addurno ystafell myfyriwr ar gyllideb deimlo fel tasg amhosibl, rydw i yma i brofi ei bod hi’n bendant yn bosib! Dyma 10 ffordd y gallwch ddiweddaru eich ystafell myfyriwr ar gyllideb!

1. Goleuadau bach

Er bod y rhain yn eitem weddol gyffredin yn y rhan fwyaf o ystafelloedd myfyrwyr, nid yw hynny'n golygu eu bod yn llai hanfodol! Mae goleuadau bach yn ffordd rad a hawdd o wneud eich ystafell yn fwy cartrefol a chroesawgar, a gallwch eu prynu am gyn lleied â £3 am bâr.  Hyd yn oed os nad oes gennych lawer o socedi, mae'r rhan fwyaf o oleuadau bach yn defnyddio batris felly beth am brynu mwy nag un pâr? 

goleuadau bychain dros wely

2. Atebion storio call

Nid yw'n gyfrinach nad oes llawer o le storio mewn ystafelloedd myfyrwyr, yn enwedig o ran y cwpwrdd dillad a'r ardal ddesg. Mae modd datrys hyn gan ddefnyddio atebion storio call (a rhad!) Mewn cwpwrdd dillad, gallwch ddefnyddio bocsys Kallax IKEA sy'n costio rhwng £2.50 a £3.50. Mae'r bocsys hyn ar gael mewn amrywiaeth o liwiau ac mae modd storio llawer o bethau ynddynt. Rydw i'n cadw dau o'r bocsys hyn ar ben fy nghwpwrdd dillad ac rydw i'n cadw fy pyjamas a'm hesgidiau ynddynt.

Mae llawer o opsiynau ar gyfer lle storio ar eich desg. Os ydych yn gobeithio mwyafu'r lle, gallwch brynu set o ddroriau desg bach o WHSmith, am oddeutu £15, sy'n ddigon mawr i storio eich llyfrau nodiadau yn ogystal â'ch holl nwyddau ysgrifennu. Neu os ydych yn brin iawn o le, gallwch ddefnyddio amrywiaeth o jariau a photiau i storio pennau a nwyddau ysgrifennu eraill.

bocsys storio melyn
Potiau pensil a chactws

3. Atgofion O Adref

Gall dod i'r brifysgol fod yn brofiad anodd os ydych yn hiraethu am gartref. Gellir helpu i leddfu hyn drwy addurno eich ystafell gyda lluniau o'ch teulu/ffrindiau i'ch atgoffa o’ch bywyd gartref pan fyddwch yn teimlo'n isel.  Hefyd gallwch ddod ag eitemau sentimental, megis tedi neu obennydd, i'ch helpu i deimlo'n fwy cartrefol yn eich llety myfyrwyr.  

amlinell grŵp o bobl o flaen yr haul

4. Addurniadau Bach

Gall addurniadau bach ddod ag ystafell yn fyw, ac weithiau gallwch ddod o hyd iddynt yn y llefydd mwyaf annisgwyl. Enghreifftiau o'r rhain fyddai cacti, canhwyllau neu addurniadau ac fel arfer maent yn costio llai na £5. Gallwch ddod o hyd i addurniadau bach mewn llefydd megis Wilko, B&M bargains a The Range. Fodd bynnag, os ydych yn chwilio am addurniadau bach mwy unigryw, yna byddwn i'n argymell chwilio mewn siopau elusen lleol am hen addurniadau sy'n costio rhwng £2 - £5.

cacti bach iawn
lamp ymyl gwely, lamp bwrdd gwyn

5. Lampau

Does dim byd gwaeth na chyrraedd y brifysgol a sylweddoli mai dim ond un prif olau sydd yn eich ystafell wely. I wella'r sefyllfa o ran goleuadau, argymhellaf eich bod yn dod â 2 neu 3 o lampau gyda chi, un i'w defnyddio fel lamp ddesg ar gyfer astudio gyda'r hwyr ac un i'w defnyddio fel lamp wrth ochr eich gwely. Yn ogystal â gwneud i'ch ystafell deimlo'n fwy cartrefol, gall hefyd wneud eich bywyd yn haws os oes gennych lamp wrth ochr eich gwely. Gallwch brynu lampau o IKEA am lai na £5, fel y lamp ddesg a brynais i am £3 a'r lamp ochr gwely a ges i am £5.

6. Bachau Command

Pan fyddwch yn byw mewn llety i fyfyrwyr, mae'r rhan fwyaf o gontractau'n nodi na allwch wneud addasiadau i'r ystafell, megis sgriwio hoelion yn y wal. Ffordd rwydd o osgoi hyn yw defnyddio bachau Command nad ydynt yn achosi difrod. Bachau gludiog yw'r rhain a gallwch eu hatodi i'r wal i osod posteri, goleuadau bach neu addurniadau wal. Pris y bachau clir maint canolig yw tua £3.50 ac maent yn gallu dal uchafswm o 1KG, felly cofiwch beidio â mynd dros y terfyn pwysau hwn i atal y bachau rhag cwympo.

7. Posteri/addurniadau wal

Gall ystafell deimlo'n oer a gwag os yw'r waliau'n wag, ond gallwch ddatrys hyn yn rhwydd gan ddefnyddio addurniadau wal! Gallwch ddefnyddio posteri am eich hoff fand neu dîm chwaraeon, neu hyd yn oed addurniad wal bach ciwt megis canfas. Gellir rhoi'r rhain i fyny gan ddefnyddio White Tack ar gyfer posteri neu fachau Command ar gyfer addurniadau trymach, sydd felly'n golygu eu bod nhw'n rhad ac nid ydynt yn difrodi'r wal! 

poster parhau i wenu

8. Ceisiwch gael thema

Gall fod yn anodd prynu eitemau ar gyfer ystafell myfyriwr os nad oes gennych gynllun i'w ddilyn. Cyn i mi ddod i'r brifysgol, penderfynais y byddwn yn defnyddio'r môr fel thema ar gyfer fy ystafell gan fod gan Gampws y Bae Prifysgol Abertawe draeth ar y safle. O hynny, edrychais i ar wefannau ail-law ar gyfer addurniadau i gyd-fynd â'r thema ar gyllideb. Mae’n haws osgoi prynu gormod o bethau/prynu gormod o'r un eitem ar gyfer eich ystafell os oes gennych thema ac felly byddwch yn arbed mwy o arian yn y pendraw.

9. Basged ddillad

Er bod hyn yn eitem amlwg ar gyfer ystafell brifysgol, gall basgedi dillad fod yn ddrud! Ffordd rwydd o osgoi'r gost ychwanegol hon a chael dillad brwnt dros y llawr i gyd, yw prynu basged godi. Fel arfer gallwch brynu'r rhain am £5 - £7 o Wilko ac maent ar gael mewn amrywiaeth o liwiau.

pegiau dillad lliwgar

10. Ryg

A'r eitem olaf ar y rhestr hon yw ryg. Gall rygiau wneud i ystafell edrych yn llai gwag trwy orchuddio llawr gwag a hefyd drwy ychwanegu bach o liw at yr ystafell. Er y bydd angen i chi siopa o gwmpas i ddod o hyd i ryg ratach, mae'n hawdd dod o hyd i un am lai na £15!

rỳg glas, ffrâm, planhigyn, bag, gliniadur ac esgidiau

Gobeithio y bydd hyn a'r fideo ailwampio yn eich ysbrydoli ar gyfer sut y gallwch droi'ch ystafell yn lle perffaith sy’n haeddu sylw mawr ar Instagram!