Cefnogaeth sydd ar gael
Mae symud i rywle newydd yn gyffrous, ond gall fod yn anodd hefyd wrth i chi ymgyfarwyddo, felly gellir tawelu eich meddwl bod rhwydwaith cefnogaeth llawn i fyfyrwyr sy'n byw yn llety'r Brifysgol. Mae ein tîm ymroddedig yma i'ch cefnogi chi.
Mae ein Cydlynydd Bywyd Preswyl a'n Cynorthwywyr Bywyd Preswyl ar gael i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau yn ystod eich amser yn ein preswylfeydd.
Os hoffech chi gael rhagor o gefnogaeth, mae croeso i chi gysylltu â'r Gwasanaethau Preswyl.
Mae Arian@BywydCampws yn darparu cyngor ac arweiniad ynghylch yr holl faterion ariannol sy'n berthnasol i fyfyrwyr. I nifer o fyfyrwyr, dechrau yn y brifysgol fydd y tro cyntaf iddynt orfod rheoli eu harian eu hunain. Bydd goresgyn yr her hon yn llwyddiannus yn helpu i sicrhau bod myfyrwyr yn cyrraedd eu potensial llawn wrth astudio ac yn cyfrannu at greu profiad cadarnhaol i fyfyrwyr.
Rydym yn helpu Arian@BywydCampws i gefnogi myfyrwyr sydd wedi bod mewn gofal ac yn gweithio'n agos i sicrhau y ceir y cymorth angenrheidiol i ddiwallu eu hanghenion llety, megis llety drwy gydol y flwyddyn.
Gallwn hefyd gynnig, lle y bo'n bosib, ddewis llawn o amrywiaeth helaeth o gategorïau ystafelloedd y Gwasanaethau Preswyl, megis llety sy'n cynnig gwerth am arian neu leoliad cyfleus, pa bynnag lety sydd fwyaf addas ar gyfer eu gofynion unigol.
Mae MyfyrwyrRhyngwladol@BywydCampws yn darparu gwybodaeth a chyngor ar faterion anacademaidd, gan gynnwys gwasanaethau a chyngor ar fewnfudo i'r holl fyfyrwyr rhyngwladol (o'r tu allan i'r DU) a'u dibynyddion.
Mae Llesiant@BywydCampws yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd i fyfyrwyr ar amrywiaeth o faterion llesiant, gan gynnwys hiraeth am gartref, ysgytwad diwylliannol, profedigaeth, bwlio, aflonyddu, perthnasoedd yn chwalu, a llawer mwy. Mae gan bawb brofiad gwahanol fel myfyriwr pan maent yn dechrau mewn prifysgol. Sylwer ein bod yn pryderu cymaint ynghylch llesiant myfyrwyr ag yr ydym ynghylch eu hastudiaethau academaidd a'u perfformiad.
Mae'r tîm lles ar gyfer myfyrwyr sy'n cael anawsterau ac y mae angen cymorth arnynt. Gall y gwasanaeth hwn eich helpu i gael mynediad at y gwasanaethau cywir i'ch cefnogi chi a'ch lles pan fydd eu hangen arnoch fwyaf.
Os oes gennych anabledd, cyflwr meddygol neu anhawster dysgu penodol, cysylltwch ag Anableddau am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i sicrhau y gallwch elwa o'r un cyfleoedd â phawb arall. Dyma ragor o wybodaeth am yr opsiynau llety a'r addasiadau sydd ar gael i fyfyrwyr ag anableddau.