Amser symud allan o dy lety Prifysgol?

Gobeithio dy fod wedi mwynhau dy amser yn byw ym mhreswylfeydd Prifysgol Abertawe.

Dyma rai awgrymiadau i dy helpu wrth ymadael. Oherwydd dy fod yn gyfrifol am gyflwr dy ystafell a mannau cymunedol dy lawr, dy fflat neu dy dŷ tan ddiwedd dy gontract, rydym wedi llunio rhestr wirio o'r pethau y bydd angen i ti eu gwneud cyn i ti adael.

Cofia, os byddi di'n gadael dy lety'n gynharach na dyddiad diwedd dy gontract, bydd dy ymrwymiad dan gontract neu dy ymrwymiad ariannol yn dal i fod yn berthnasol.