Yn ogystal â'r llety gwahanol, mae gennym yr ardaloedd dynodedig canlynol ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd â gofynion penodol. Byddwn bob amser yn ceisio darparu ar gyfer myfyrwyr o fewn y dewisiadau hyn lle bo hynny'n bosibl.
Ardaloedd Un-rhyw
Ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno byw gyda'r un rhyw yn unig. Gallwch ddewis yr opsiwn hwn wrth wneud cais.
Os ydych yn dewis yr opsiwn hwn ni fyddwch yn gallu cael ymwelwyr o'r cyfnod rhyw arall mewn preswylfeydd
Ardaloedd tawelach
Gallwch ofyn am ystafell mewn fflat/dŷ a rennir gyda myfyrwyr eraill sydd hefyd wedi mynegi diddordeb mewn amgylchedd byw tawel. Gofynnir i fyfyrwyr gadw lefelau sŵn i isafswm o rhwng 11 yh ac 8 yb ac yn ystod cyfnodau arholi. Disgwylir i bob myfyriwr sy'n gofyn am yr amgylchedd hwn hefyd gadw cyfaint y setiau teledu ac offer sain yn isel.
Nodwch, nid yw'n bosibl rheoleiddio lefelau synau allanol neu amgylcheddol.
Ardal di-alcohol
Os hoffech wneud cais am y math hwn o lety, gallwch wneud hynny drwy ateb yn gadarnhaol i'r cwestiwn eich bod yn ffafrio amgylchedd di-alcohol ar y ffurflen gais am lety.
Os ydych yn derbyn eich cynnig o lety di-alcohol, rydych yn cytuno i beidio â defnyddio neu storio alcohol yn y fflat/tŷ.
Mae fflatiau di-alcohol ar gyfer myfyrwyr sy'n dewis ac yn gwneud cais i fyw ynddynt-ni fydd myfyrwyr yn cael eu rhoi mewn fflat sy'n rhydd o alcohol heb gael gwybod ymlaen llaw. Nodwch na allwn warantu cynnig o lety di-alcohol i bawb sy'n gwneud cais amdano
Siaradwyr Cymraeg
Mae Prifysgol Abertawe yn awyddus i gefnogi ei chymuned gref o siaradwyr Cymraeg. O ganlyniad, mae'r Brifysgol wedi creu Aelwydydd ar gyfer siaradwyr Cymraeg neu fyfyrwyr sydd am ddysgu'r iaith ac sy’n dymuno byw gyda’i gilydd. Ceir Aelwyd Penmaen ar Gampws Singleton ac Aelwyd Emlyn ar Gampws y Bae.
Diffinnir myfyrwyr aeddfed fel unrhyw fyfyriwr 21 oed neu hŷn ar ddechrau eu hastudiaethau.
Ardal ôl-raddedig-fel arfer cyrsiau 51 wythnos ac astudio ar ôl eich gradd gychwynnol. Mae astudio'n llawn amser yn ddewis poblogaidd i fyfyrwyr sydd newydd gwblhau eu gradd israddedig ac eisoes yn gwybod bod angen cymhwyster ôl-radd ar gyfer eu cynlluniau gyrfa.
Ardal Gwyddorau Iechyd
Mae'r rhain fel arfer ar gyfer dyddiadau dechrau cynnar a gorffen cwrs hwyr y tu allan i'r cohort rheolaidd o 40 yr wythnos