Ceir Aelwyd Penmaen ar Gampws Singleton ac Aelwyd Emlyn ar Gampws y Bae

Criw o fyfyrwyr Cymraeg yn cerdded tu allan i Aelwyd Penmaen

Y dewis perffaith i ti!

Mae Prifysgol Abertawe yn awyddus i gefnogi ei chymuned gref o siaradwyr Cymraeg. O ganlyniad, mae'r Brifysgol wedi creu Aelwydydd ar gyfer siaradwyr Cymraeg, neu fyfyrwyr sydd am ddysgu'r iaith ac sy’n dymuno byw gyda’i gilydd. Ceir Aelwyd Penmaen ar Gampws Singleton ac Aelwyd Emlyn ar Gampws y Bae. 

Pam dewis llety gyda siaradwyr Cymraeg eraill?

  • Awyrgylch cartrefol
  • Cyfle i fod yn rhan o gymuned glos a chefnogol
  • Byw a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cyfle i fanteisio i'r eithaf ar ystod eang o weithgareddau addysgol a chymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Trwy ddewis Aelwyd i fyfyrwyr Cymraeg byddi'n greiddiol i fywyd Prifysgol, ac yn rhan o gymuned glos gyda siaradwyr Cymraeg eraill - y dewis perffaith i'th helpu i ymgartrefu'n gyflym. Mae pob myfyriwr sy'n dychwelyd i flynyddoedd 2, 3 a 4 hefyd yn gymwys i wneud cais am y llety hwn.

Os nad wyt ti'n dymuno byw gyda siaradwyr Cymraeg eraill, mae digon o opsiynau eraill ar gael i ti. Cer i dudalennau llety i weld y dewisiadau. 

Ar ba gampws fyddi di'n dewis astudio?

Dewisa'r campws perthnasol i ddysgu am y llety i siaradwyr Cymraeg yno