Modiwlau sydd ar gael yn y Gymraeg

Cyfuniad o fodiwlau yw cynnwys cwrs gradd. Mae’r modiwlau yn werth swm penodol o gredydau ac mae angen i chi gwblhau cyfres o fodiwlau a fydd yn gyfystyr â 120 o gredydau ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Mae rhai ohonynt yn fodiwlau craidd sy’n fodiwlau sylfaenol i’r raglen astudio ac sy’n rhaid eu dilyn, mae eraill yn fodiwlau dewisiol er mwyn ategu at eich diddordeb a’ch llwybr dewisiol o fewn y cwrs.

Mae’r modiwlau yn cael eu darparu ar lefel 4, 5 a 6. Mae Lefel 4 yn dynodi modiwlau i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, Lefel 5 yn dynodi’r ail flwyddyn a Lefel 6 yn dynodi’r drydedd flwyddyn. Wrth cwblhau modiwl yn llwyddiannus ac ennill y nifer perthnasol o gredydau, mae’r rhain yn cael ei roi tuag at ddyfarniad llawn y gradd.

Mae modiwlau cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe yn defnyddio nifer o dechnegau dysgu blaengar, gan gynnwys cipio darlithoedd, deunyddiau dysgu amlgyfrwng, fideo-gynadledda, cyrsiau preswyl, mewnbwn gan ymarferwyr proffesiynol, ac adnoddau ar lein, i gefnogi dulliau dysgu mwy traddodiadol, megis darlithoedd a’r llyfrgell. Trwy’r dulliau dysgu hyn, gall myfyrwyr Prifysgol Abertawe gymryd rhan mewn seminarau a darlithoedd a gaiff eu cynnig gan sefydliadau eraill gan roi cyfle i chi fod yn rhan o gymuned addysgol ehangach. Mae yn Abertawe ofod dysgu penodol, yn sgil ein partneriaeth gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n ein galluogi i wneud hynny.

Lawrlwythwch Ap Arwain Academi Hywel Teifi sy'n rhestri'r holl fodiwlau sydd ar gael yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe .

Llun o ap Arwain
Lawrlwythwch ap Arwain

Ap Arwain

Mae Arwain yn ap rhad ac am ddim wedi’i greu ar gyfer myfyrwyr cyfredol a darpar fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sy’n siarad neu dysgu Cymraeg. Mae’r ap yn cynnwys gwybodaeth am ein cyrsiau a’n modiwlau cyfrwng Cymraeg, y gefnogaeth ariannol sydd ar gael, ynghyd â’r cyfleoedd i fyw a chymdeithasu yn y Gymraeg.
 
Ar gael nawr ar yr App Store a Google Play.