Cymorth ariannol tra'n astudio

Mae gan fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau neu fodiwlau israddedig cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog ym Mhrifysgol Abertawe gyfle arbennig i gael cymorth ariannol. Mae nifer uchel o gyrsiau’n gymwys am Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi. Bydd angen i chi astudio nifer penodol o gredydau i fod yn gymwys am y cynlluniau. 

Defnyddiwch y dolenni isod er mwyn cael mwy o wybodaeth am ysgoloriaethau penodol.