Ydych chi'n ystyried astudio trwy gyfrwng y Gymraeg?
Dyma gynllun bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi dewis dod i Brifysgol Abertawe ac sydd yn dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo cyfle, yn hytrach na thrwy’r Saesneg. Mae’r gystadleuaeth hon yn cynnig 8 bwrsari gwerth £100 yr un i fyfyrwyr lefelau Sylfaen, 4, 5, 6, a 7 sydd yn astudio o leiaf 5 credyd o fodiwl trwy gyfrwng y Gymraeg mewn un semester. Mae’r bwrsariaethau hyn yn agored i fyfyrwyr sy’n astudio'r meysydd isod;
- Addysg
- Astudiaethau Busnes
- Cemeg
- Parafeddygaeth
- Peirianneg
- Mathemateg
- Seicoleg
I wneud cais ar gyfer Bwrsariaeth mae angen i chi ddychwelyd y ffurflen hon wedi ei chwblhau yn llawn at Lois Wyn Griffiths trwy'r manylion isod erbyn 5pm ar ddydd Sul 17 Hydref 2021.
- Ffurflen gais Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg (PDF)
- Ffurflen gais Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg (WORD)
Telerau ac Amodau
Darllenwch y Telerau ac Amodau cyn cwblhau cais. Mae'r dyddiad cau am 5pm ar ddydd Sul 17 Hydref 2021.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â
Lois Wyn Griffiths - l.w.griffiths@abertawe.ac.uk