Ydych chi'n ystyried astudio trwy gyfrwng y Gymraeg?

Dyma gynllun ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi dewis dod i Brifysgol Abertawe ac sydd yn dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo cyfle, yn hytrach na thrwy’r Saesneg. Mae’r cynllun hwn yn agored i fyfyrwyr lefelau Sylfaen, 4, 5, 6, a 7 ac mae 55 o ysgoloriaethau gwerth £300 yr un ar gael i’r rhai sy’n dewis astudio 40 credyd neu fwy drwy gyfrwng y Gymraeg.  

Gwelwyd cynnydd sylweddol yn y nifer o geisiadau a dderbyniwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan osod safon uchel i’r gystadleuaeth.  O ganlyniad, anogir ymgeiswyr i dreulio amser yn cwblhau ceisiadau cryf i’w cyflwyno er mwyn sicrhau’r cyfle gorau i ennill Ysgoloriaeth.  

Mae’r ysgoloriaethau hyn yn agored i fyfyrwyr sy’n astudio’r meysydd isod:

  • Addysg
  • Astudiaethau Busnes 
  • Astudiaethau'r Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • Biocemeg
  • Biowyddorau
  • Bydwreigiaeth
  • Cemeg
  • Daearyddiaeth
  • Ffiseg
  • Geneteg
  • Gwaith Cymdeithasol
  • Hanes
  • Ieithoedd Modern Tramor
  • Meddygaeth
  • Nyrsio
  • Parafeddygaeth
  • Seicoleg
  • Y Gyfraith

Bydd ceisiadau ar gyfer 2024-25 yn agor fis Medi 2024.

Telerau ac Amodau

Darllenwch y Telerau ac Amodau cyn cwblhau cais. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â

Indeg Llewelyn Owen - i.l.owen@abertawe.ac.uk