Ysgoloriaethau Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig Ysgoloriaethau gwerth £1,000 y flwyddyn (neu £3,000 dros dair blynedd) os ydych yn dymuno astudio o leiaf 66% neu fwy o'ch gradd (neu 80 credyd y flwyddyn) drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dyddiad cau mynediad 2023 yw 17 Ionawr 2023. 

Am fanylion pellach, ewch i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

 Cofiwch bod angen Ymaelodi â'r Coleg fel darpar fyfyriwr er mwyn medru ymgeisio!

 

Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig Ysgoloriaeth Cymhelliant gwerth £500 i myfyrwyr sy’n bwriadu astudio o leiaf 33% (o leiaf 40 credyd) o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cychwyn eu blwyddyn cyntaf yn y flwyddyn academaidd 2023-24 mewn UNRHYW BWNC. 

Mae'r ffenestr ymgeisio ar gyfer mynediad i Brifysgol yn 2023 yn agor ar 1af Mawrth.  

Gwnewch gais ar gyfer Ysgoloriaeth Cymhelliant

Gallwch wirio os yw eich cwrs yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth uchod gan ddefnyddio'r Chwilotydd cyrsiau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Cofiwch bod angen Ymaelodi â'r Coleg fel darpar fyfyriwr er mwyn medru ymgeisio!