Cangen Abertawe - Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Pwyllgor y Gangen
Cadeirydd y Gangen yw Dr Gwenno Ffrancon
Ysgrifennydd y Gangen yw Lois Wyn Griffiths.
Mae aelodaeth o'r gangen yn agored i unrhyw aelod o staff academaidd neu staff cefnogol sy’n aelod o’r Coleg. Mae'r Gangen yn cyfarfod yn ffurfiol ddwy waith y flwyddyn.
Cynhelir y cyfarfod blynyddol nesaf ar:
12 Rhagfyr 12:00-14:00
Siambr y Cyngor, Yr Abaty
Darlithwyr
Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn addysgu myfyrwyr dwry gyfrwng y Gymraeg ers degawdau bellach. Ond trwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol rydym wedi gallu penodi nifer o ddarlithwyr newydd a datblygu a chynnig cyrsiau a modiwlau newydd trwy’r Gymraeg.
Dyma’r pynciau sy’n cael eu cefnogi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Abertawe:
- Biocemeg a Geneteg – Yr Ysgol Feddygaeth
- Bioleg a Bioleg y Môr – Y Coleg Gwyddoniaeth
- Bydwreigiaeth – Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
- Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus – Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
- Cymraeg – Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
- Daearyddiaeth (Fiisegol a Dynol) – Y Coleg Gwyddoniaeth
- Ffiseg – Y Coleg Gwyddoniaeth
- Ffrangeg – Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
- Gwaith Cymdeithasol - Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
- Gwyddorau Meddygol – Yr Ysgol Feddygaeth
- Hanes – Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
- Nyrsio - Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
- Peirianneg – Coleg Peirianneg
- Seicoleg - Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
- Sŵoleg - Y Coleg Gwyddoniaeth
Rydym hefyd yn cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y pynciau canlynol:
- Mathemateg – Y Coleg Gwyddoniaeth
- Y Gyfraith – Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
- Sbaeneg – Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau