Y Porth

Llwyfan e-ddysgu cydweithredol y Coleg yw'r Porth.  Fe'i sefydlwyd yn 2009 er mwyn annog Prifysgolion i rannu adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg gyda'i gilydd.  Yn sgil hynny, mae wedi datblygu yn ffocws hollbwysig ar gyfer astudio ac addysgu cyrsiau Prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r Porth yn seiliedig ar Blackboard ac yn agored i staff a myfyrwyr yn holl brifysgolion Cymru.

Mae'n cynnwys:

  • Adnoddau a deunyddiau electronig
  • Oriel gwe
  • Modiwlau a deunyddiau cefnogol
  • Porth chwiliadwy o dermau ar gyfer addysg uwch

Er bod y Porth yn cynnwys nifer o adnoddau agored, mae angen cofrestru fel defnyddiwr er mwyn cael mynediad at rai adnoddau e.e modiwlau penodol.

Mae'r broses o gofrestru fel defnyddiwr ar y Porth yn rhwydd.  Dilynwch y cyfarwyddiadau ar wefan Y Porth.